-
Konstanz, Yr Almaen

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein partneriaeth swyddogol yn y ‘Gynhadledd Diagnostics-4-Future’ fydd yn cael ei chynnal ar 27/28 Tachwedd, 2019 yn Constance, yr Almaen.

Diagnostics 4 Future Event Image

Hoffem estyn croeso cynnes i chi i’r gynhadledd. Bydd arbenigwyr blaenllaw o’r diwydiant a’r maes meddygaeth ac ymchwil yn ymuno â’r digwyddiad i drafod “pynciau llosg” sy’n ymwneud â diagnosteg:

  • Diagnosteg canser
  • Monitro therapïau
  • Pathogenau aml-ymwrthedd
  • Ffordd o fyw a diagnosteg
  • Deallusrwydd Artiffisial a diagnosteg ddigidol

Bydd y gynhadledd yn cychwyn gyda chwestiynau diagnostig gan ddefnyddwyr (e.e. meddygon meddygol, clinigau, labordai), ac fe ddylent ysgogi atebion newydd drwy gwrdd â datblygwyr a chyflenwyr technoleg. Mae'r digwyddiad yn mynd i'r afael e.e. datrysiadau diagnostig sy'n canolbwyntio ar y claf (pwynt gofal) i wella gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig. Bydd arddangosfa a gwobr posteri yn ategu’r gynhadledd.

‘DiagNET’ yw’r trefnydd, sef y rhwydwaith cymhwysedd rhyngwladol ar gyfer diagnosteg.  Caiff DiagNET ei gydlynu gan BioLAGO, y rhwydwaith iechyd sy’n cwmpasu pedair gwlad ardal Llyn Constance (yr Almaen, y Swistir, Awstria a Liechtenstein). 

Cynulleidfa fwriadedig
Cwmnïau, labordai, clinigau a sefydliadau ymchwil - ym maes diagnosteg ac mewn meysydd cysylltiedig fel fferylliaeth, gwyddorau bywyd a thechnoleg feddygol.

Siaradwyr

  • Yr Athro Dr Benedikt Brors, Canolfan Ymchwil Canser yr Almaen DKFZ (yr Almaen)
  • Dr Yuksel Temiz, Ymchwil IBM (y Swistir)
  • Marlieke de Kraker, Ysbyty Athrofaol Geneva (y Swistir)
  • Yr Athro Stephen Finn, Ysbyty St James / Coleg y Drindod Dulyn (Gweriniaeth Iwerddon)
  • Yr Athro Martin Widschwendter, Coleg Prifysgol Llundain (y DU)
  • Dr Françoise Wilhelmi de Toledo, Kliniken Buchinger Wilhelmi (yr Almaen)

... a llawer mwy!

Lleoliad mawreddog ac unigryw
Bydd y gynhadledd yn cael ei chynnal yn Constance yn y cyngor hanesyddol sydd wedi’i leoli wrth ymyl Llyn Constance.  

Cysylltu
BioLAGO e.V. - y rhwydwaith iechyd
Byk-Gulden-Str. 2, 78467 Konstanz, yr Almaen
Michael Statnik, rheolwr y prosiect - diagnosteg
+49 7531 92 15 25-2
michael.statnik@biolago.org
www.diagnet.org , www.biolago.org

 

Cofrestrwch eich lle heddiw!
Cynhadledd Diagnostics-4-Future
Bwciwch nawr