Beth yw Teleiechyd?

Mae technolegau teleiechyd yn caniatáu i ddefnyddwyr gwasanaeth gofnodi ac anfon gwybodaeth yn ymwneud â'u cyflwr fel y gallant gael eu trin o bell gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol. Gall hyn wella rheolaeth, triniaeth a gofal parhaus.

Gall y wybodaeth hon gael ei chasglu gan dechnolegau monitro digidol ac mae’n cynnwys mesuriadau fel pwysedd gwaed, pwysau neu lefelau dirlawnder ocsigen yn y gwaed, a gall helpu cleifion i ddeall a rheoli eu hiechyd a'u lles yn well.

Mae gwell mynediad a gwelededd o'r wybodaeth hon yn helpu cleifion i feithrin eu dealltwriaeth a chymryd rôl weithredol yn eu gofal, tra hefyd yn caniatáu i wasanaethau a gweithwyr proffesiynol wella cynllunio, triniaeth ac ymyrraeth gynnar.

 

Ein Gwaith...

Mae TEC Cymru wedi sefydlu'r Rhaglen Teleiechyd yn ddiweddar a fydd yn chwarae rhan bwysig wrth roi hwb i nifer y bobl sy’n defnyddio'r gwasanaeth ac yn sicrhau gwelliant parhaus o ran gwasanaethau Teleiechyd yng Nghymru. Bydd y Rhaglen yn cydweithio ym mhob rhan o’r system iechyd a gofal cymdeithasol i greu gweledigaeth a strategaeth sy'n goresgyn yr heriau a wynebir wrth fabwysiadu a graddio technolegau a ffyrdd newydd o weithio.