Datganiad Hygyrchedd ar gyfer https://teccumru.wales
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r wefan sy'n eiddo i Tec Cymru.
Defnyddio'r wefan hon
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Tec Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo hyd at 300% heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych anabledd.
Hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- ni fydd y testun yn ail-lifo mewn un golofn pan fyddwch chi'n newid maint ffenestr y porwr
- ni allwch addasu uchder llinell neu fylchau testun
- nid yw'r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd rhaglen darllen sgrin
- nid oes gan ffrydiau fideo byw gapsiynau
Beth i'w wneud os na allwch gael mynediad i rannau o'r wefan hon
Os oes angen gwybodaeth arnoch ar y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille:
- e-bostiwch teccymru@wales.nhs.uk
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni:
-
e-bost teccymru@wales.nhs.uk
Gweithdrefn Orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r rheoliadau hygyrchedd. Os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd yr ydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chymorth Cydraddoldeb (EASS). Equality Advisory and Support Service (EASS).
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon
Mae Tec Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.1 Web Content Accessibility Guidelines version 2.1
Cynnwys nad yw o fewn y cwmpas y rheoliadau hygyrchedd
Problemau gyda ffeiliau PDF a dogfennau eraill
Nid yw rhai o'n dogfennau PDF a Word hŷn yn bodloni safonau hygyrchedd - er enghraifft, efallai na fyddant wedi'u marcio fel eu bod yn hygyrch i raglan ddarllen sgrin.
Erbyn 31 Mawrth 2021, rydym yn bwriadu naill ai trwsio'r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. deddfwriaeth.gov.uk
Bydd unrhyw PDFs neu ddogfennau Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Problemau gyda delweddau, fideo a sain
Nid oes gan ein ffrydiau fideo byw gapsiynau wedi'u hymgorffori fel rhan o'r safon arferol o gynhyrchu.
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd deddfwriaeth.gov.uk.
Beth ydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn gweithio gyda'n cyflenwr i fonitro a mynd i'r afael yn barhaus ag unrhyw faterion hygyrchedd a gyflwynir yn ystod y gwaith parhaus o ddatblygu a diweddaru'r wefan.
Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn
Paratowyd y datganiad hwn ar 22 Medi 2020. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 21 Medi 2020
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 21 Medi 2020. Cynhaliwyd y prawf gan ein contractwr; S8080.