Beth yw Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru?
Mae ymgynghoriadau fideo yn apwyntiadau sy'n digwydd rhwng claf a gweithiwr gofal iechyd proffesiynol dros fideo, yn hytrach na wyneb yn wyneb neu dros y ffôn. Yn aml maen nhw'n fwy cyfleus i gleifion, gan arbed amser ac arian iddynt a lleihau'r straen o deithio i'w hapwyntiadau.
Ein Gwaith...
Mewn ymateb i bandemig COVID-19, sefydlodd TEC Cymru, ar y cyd â phartneriaid, Wasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru a oedd yn darparu mynediad mwy diogel at ofal iechyd drwy leihau cyswllt wyneb yn wyneb. Mae Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru wedi cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei gyflwyno trwy blatfform ymgynghori fideo o'r enw 'Attend Anywhere'.
Wedi'r pandemig mae Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru yn parhau i ddangos sut y gall wella gwasanaethau a chanlyniadau i bawb, drwy ddarparu gwell mynediad i ofal yng Nghymru. Mae manteision defnyddio ymgynghoriadau fideo yn cynnwys:
- Mwy o hyblygrwydd a chyfleustra.
- Llai o straen a phryder i gleifion a theuluoedd.
- Llai o deithio sy'n lleihau allyriadau carbon, tagfeydd ac yn helpu i wella ansawdd yr aer.
Gwyliwch ein fideo i ddysgu mwy am ymgynghoriadau fideo: