Beth yw Teleofal?

Mae Teleofal yn wasanaeth monitro sy'n eich galluogi i gael help ddydd neu nos, 365 diwrnod y flwyddyn, drwy gyffwrdd botwm, neu drwy gyfres o synwyryddion awtomatig sy'n canfod pan fydd angen cymorth arnoch.  Gall gwasanaethau teleofal ledled Cymru roi rhywfaint o sicrwydd a thawelwch meddwl ychwanegol i chi, a'ch anwyliaid.  Darperir y gwasanaethau hyn ledled Cymru, yn bennaf gan gynghorau lleol a darparwyr cymdeithasau tai. 

Ein Gwaith...

Gweledigaeth TEC Cymru ar gyfer ein Rhaglen Teleofal yw 'bod yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer pob gweithgaredd sy'n gysylltiedig â theleofal yng Nghymru'.   Byddwn yn gweithio'n agos gyda gwasanaethau teleofal Cymru, cyrff diwydiant, sectorau cysylltiedig, a defnyddwyr gwasanaethau i bennu cyfeiriad clir ar sut i gyflawni ein gweledigaeth.  Byddwn yn helpu darparwyr gwasanaethau i symud i deleofal digidol, gan ddarparu cymorth, cyngor a dogfennaeth bwrpasol i'w trosglwyddo cyn y dyddiad cau ar gyfer 2025.  Byddwn yn defnyddio'r wefan hon i roi gwybod i'r cyhoedd yng Nghymru yn ehangach am y mathau o offer teleofal y gallant eu cyrchu ac o ble, gyda dolenni i werthwyr cyfarpar a thudalennau Darparwyr Gwasanaethau Cymru.

Cymerwch olwg ar ein fideo i ddysgu mwy am deleofal: