Skip to main content

Welsh Government logo
  • English
  • X.com
  • Youtube
  • Facebook
  • LinkedIn
Tec Cymru
  • X.com
  • Youtube
  • Facebook
  • LinkedIn
  • Newyddion
  • Blog
  • Digwyddiadau
  • Astudieathau Achos
Tec Cymru
  • Hafan
  • Teleiechyd
  • Teleofal
  • Ymgynghoriadau Fideo
  • Ymchwil
  • Hyfforddiant
  • Adnoddau

Breadcrumb

  1. Hafan
  2. Teleofal

Cefnogaeth Cyn Mudo Digidol

Bydd TEC Cymru yn cefnogi gwasanaethau teleofal Cymreig sy’n paratoi am fudo digidol. Byddwn yn canolbwyntio i ddechrau ar uwchraddio’r 7 Canolfan Derbyn Larwm (CDL). Trwy gefnogi cynllunio cyn mudo, gallwn sicrhau y bydd y mudo wedi ei gydgordio’n well ac y bydd yn gyson ar draws y genedl.

Mae 4 cyfnod i’r broses cyn-fudo, a amlinellir yn fanylach isod:

Cychwyn a Chynllunio Digideiddio

Y cam cyntaf yw datblygu cynllun gweithredu i ddigideiddio gwasanaethau. Cytunir ar gyllideb fras, gosodir blaenoriaethau a rhoi tîm at ei gilydd. Mae angen dadansoddi maint a graddfa’r her sydd o’n blaenau Dyma’r cyfnod y gall TEC Cymru roi’r mwyaf o gefnogaeth iddo; gallwn ddarparu rhai neu’r cyfan o’r cydrannau isod:

  • Cyfarfod/holiadur canfod ffeithiau - ein helpu i ddeall aeddfedrwydd y darparwr gwasanaeth a’r hyn nad yw’n ei wybod/yr hyn mae’n rhaid iddo/i ei wybod
  • Adolygiad tirwedd – canfod gwybodaeth sylfaenol megis nifer defnyddwyr, diddordeb mewn tenantiaeth ar y cyd, strategaeth cyfarpar
  • Dau ddiwrnod o ymgynghoriaeth diwydrwydd dyladwy - treiddio’n ddwfn i staffio a sgiliau, cyfarpar a phrotocolau wrth ddefnyddio, arferion rheoli data, sylfaen defnyddwyr
  • Adroddiad protocol- byddwn yn gweithio gyda’r darparwr gwasanaeth i gynhyrchu’r adroddiad hwn fyd dyn amlygu materion rhyngweithredu cyn gynted ag sydd modd. Bydd yr adroddiad yn adolygu dichonoldeb uwchraddio’r defnyddwyr gwasanaeth hyn i larwm sy’n barod ar gyfer digidol fel mater o flaenoriaeth
  • Adroddiad gwersi a ddysgwyd – Seiliedig ar brosiect mudo Bro Morgannwg sydd yn amlygu ffactorau oedd yn anhysbys gynt ac yn cadarnhau rhagdybiaethau
  • Model o gynllun cyn-mudo – gall ein hymgynghoriaeth ddatblygu cynllun lefel-uchel ar gyfer gweithgaredd cyn caffael, caffael a gweithredu, fel y gall y darparwr gwasanaeth baratoi’r mudiad ar gyfer mudo digidol. 
Symud cyn caffael

Ar ôl pennu maint y prosiect a chytuno ar gynllun gweithredu, y cam nesaf yw caffael - sut i gaffael, pwy i fod yn rhan a gorffen y gwaith cyn-gaffael. Bydd hyn yn ysgafnhau’r pwysau ar y llwybr critigol wedi caffael ac yn gwneud yn siŵr y dewisir y cynnyrch iawn. Bydd y deilliannau a’r mewnwelediad a geir o gam gyntaf y gefnogaeth cyn-fudo yn  galluogi TEC Cymru i osod ynghyd becyn o ddeunydd cefnogi a fydd yn cynnwys:

  • Gwybodaeth am fframweithiau caffael addas
  • Holiaduron cwmwl a diogelwch, gan gynnwys safonau data a seiberddiogelwch
  • Canllawiau ar Reoli Data
  • Mewnwelediad i Gyflenwyr
  • Glasbrint – adolygiad manwl o Lasbrint Teleofal TEC Cymru, sy’n amlygu manteision alinio
Manyleb y Llwyfan – Dogfen Cais am Gynnig (CAG)

Y pethau allweddol i’w cyflwyno yn y cyfnod hwn yw Gwahoddiad i Dendro (GiD), rhestr fer o gyflenwyr, a metrics sgorio (a ddatblygir gan y darparwr gwasanaeth, er y gall TEC Cymru ddarparu dogfennau enghreifftiol). Gall gweithgareddau eraill, heb fod yn gysylltiedig â chaffael, ddigwydd ar yr un pryd, megis cynnal arolygon o gyfarpar neu lanhau data. Mae cefnogaeth TEC Cymru yn fwy o natur cynghori yn y cyfnod RFP hwn. Fodd bynnag, gallwn ddal i gynnig y gefnogaeth ganlynol:

  • Help i recriwtio Rheolwr Prosiect addas, lle bo hynny’n gymwys
  • Help i drefnu a chymryd rhan mewn sesiynau arddangos gan werthwyr i arddangos eu hatebion. Buasem yn disgwyl i gyflenwyr gwblhau holiaduron Seiberddiogelwch Cyflenwyr, Nodweddion a Phriodweddau, a Gofynion Llwyfan Monitro ymlaen llaw
  • Cyfeirio darparwyr gwasanaeth at bob dogfen a all fod o ddiddordeb/gwerth sydd wedi eu storio yng Nghanolfan Adnoddau TEC Cymru
  • Lle cytunodd y darparwr gwasanaeth i alinio â Glasbrint TEC Cymru, byddwn yn adolygu’r prif arteffactau RFP er mwyn sicrhau y byddant yn cyrraedd nod y Glasbrint
Proses Gaffael

Yn y cyfnod hwn, bydd gwerthwr yr atebion newydd yn cael eid dewis trwy broses sgorio. Yn ystod y cyfnod hwn, dylid datblygu cynllun gweithredu fel y gall gweithredu gychwyn cyn gynted ag y llofnodir contractau gyda’r gwerthwr newydd.

Trwy eithriad y bydd unrhyw ymwneud gan TEC Cymru â’r broses gaffael, h.y., lle ceisir cyngor neu os cyfyd cwestiynau lle byddwn ni yn y sefyllfa orau i ddarparu cymorth. 

Welsh Government logo
  • Newyddion
  • Blog
  • Digwyddiadau
  • Astudieathau Achos
Tec Cymru
Tŷ Regus,
Cardiff Gate Business Park,
Caerdydd,
CF23 8RU

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg

E-bost : teccymru@wales.nhs.uk
  • X.com
  • Youtube
  • Facebook
  • LinkedIn
  • Hygyrchedd
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Telerau
  • Cwcis
  • Preifatrwydd
  • Sitemap
© 2025 TEC Cymru