Gwasanaethau Hyfforddi yn TEC Cymru

Sefydlwyd tîm Hyfforddi TEC Cymru ym Mawrth 2020 i helpu gweithwyr iechyd a gofal ledled Cymru i ddefnyddio ymgynghoriadau fideo i gyflwyno gofal. Yr oedd yn canolbwyntio i ddechrau ar gefnogi cartrefi nyrsio a gofal yn BIP Aneurin Bevan, a buan iawn y cydnabuwyd llwyddiant a chyflymder hyfforddi rhithiol. Ehangwyd y rhaglen hyfforddi i gynnwys timau gofal sylfaenol, eilaidd a chymunedol ledled Cymru wrth i Wasanaeth Ymgynghoriadau Fideo GIG Cymru gael ei gyflwyno, a sicrhawyd bod y ffordd newydd hon o weithio wedi ei dderbyn yn fuan. 

Mae gennym dîm profiadol sy’n cyflwyno hyfforddiant ledled y wlad ar amrywiaeth o dechnolegau - os oes gennych ddiddordeb mewn cael sgwrs â ni, e-bostiwch teccymru@wales.nhs.uk

Mae gwasanaeth Ymgynghoriadau Fideo GIG Cymru  yn caniatáu i chi gynnig ymgynghoriadau fideo diogel i gleifion. Ei nod yw helpu i arbed amser, cadw pobl yn ddiogel a rhoi ffordd arall i chi gyflwyno gofal i gleifion.

I ddefnyddio ymgynghoriadau fideo, gofynnir i chi fynychu sesiwn hyfforddi i fynd â chi drwy’r Gwasanaeth a sut y mae’n gweithio. Archebwch eich sesiwn hyfforddi yma.