Hidlyddion

Fel un o’r pum cais llwyddiannus ar gyfer y Gronfa Atebion Digidol (DSF), ac er mwyn rhoi cymorth i staff y GIG ledled Cymru, mae DNA Definitive wedi mynd ati’n gyflym i dreialu system ddigidol ar gyfer rheoli ymateb i drawma. Mae hyn wedi dangos sut mae rhaglen sefydledig yn gallu cael ei haddasu’n gyflym ar ffurf system ddigidol, sy’n golygu bod y rhaglen ar gael yn fwy hwylus i’r rheini sydd ei hangen. Gallai’r system gael ei defnyddio yn y tymor hir hefyd fel rhan o opsiwn cyfunol y tu hwnt i COVID-19.

Rhaglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a gydlynir gan Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC) i gefnogi’r ymateb i COVID-19 yw’r Gronfa Atebion Digidol (DSF). Connect Health oedd y prosiect cyntaf i gael ei redeg. PhysioNow, yw’r offer hunan-asesu a brysbennu cyhyrysgerbydol digidol, a dreialwyd mewn dau Bwrdd Iechyd (Hywel Dda a Cwm Taf Morgannwg) yn ystod hydref 2020.