Fel un o’r pum cais llwyddiannus ar gyfer y Gronfa Atebion Digidol (DSF), ac er mwyn rhoi cymorth i staff y GIG ledled Cymru, mae DNA Definitive wedi mynd ati’n gyflym i dreialu system ddigidol ar gyfer rheoli ymateb i drawma. Mae hyn wedi dangos sut mae rhaglen sefydledig yn gallu cael ei haddasu’n gyflym ar ffurf system ddigidol, sy’n golygu bod y rhaglen ar gael yn fwy hwylus i’r rheini sydd ei hangen. Gallai’r system gael ei defnyddio yn y tymor hir hefyd fel rhan o opsiwn cyfunol y tu hwnt i COVID-19.

Hyfforddiant Digidol ar gyfer Gwrthsefyll Trawma: DNA Definitive yn creu gwaddol i staff gofal iechyd yng Nghymru

Trosolwg

Mae rheoli llesiant yn hollbwysig i gyflogwyr ym mhob rhan o’r maes gofal iechyd, a hynny fwy nag erioed dros y flwyddyn diwethaf. Yn ôl adroddiad diweddar gan Deloitte, ar gyfartaledd, am bob £1 sy’n cael ei gwario ar gymorth ar gyfer iechyd meddwl, mae cyflogwyr yn cael £5 yn ôl yn sgil llai o absenoldeb a throsiant staff.

Mae staff o bob arbenigedd yn aml yn gallu bod mewn sefyllfaoedd anodd sy’n llawn emosiwn – a allai effeithio ar eu hiechyd meddwl a’u hiechyd corfforol yn y tymor hir. Mae hyn yn effeithio ar lesiant staff yn ogystal ag ansawdd hirdymor gwasanaethau clinigol.

Rhaglen rheoli cadernid a thrawma meddygol yw MedTRiM, ac mae’n gallu helpu i roi cefnogaeth i’r rheini sy’n delio â phwysau o’r fath. Cafodd rhaglen TriM (Trauma risk management) ei datblygu’n wreiddiol ar gyfer aelodau’r lluoedd arfog, ond cafodd ei haddasu yn 2011 ar gyfer gweithwyr ar draws y maes gofal iechyd, gan DNA Definitive ar y cyd â Dr Mark Stacey, Deon Cyswllt Cynlluniau Newydd yn AaGIC ac Anesthetydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro.

Roedd yr adnodd hwn wedi hen ennill ei blwyf ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb, gan greu awyrgylch lle gallai staff gofal iechyd ddysgu’n agored i roi cefnogaeth i gydweithwyr ar ôl profiad a allai fod yn drawmatig. Fodd bynnag, roedd pandemig COVID-19 wedi torri ar draws darpariaeth wyneb yn wyneb ac ystafell ddosbarth y rhaglen. Digwyddodd hyn ar adeg pan oedd galw mawr am gefnogaeth a hyfforddiant ar gyfer staff yn wyneb pwysau sylweddol. Wrth i nifer yr achosion COVID-19 saethu i fyny, a gyda phwysau na welwyd ei debyg ar ein gwasanaethau gofal iechyd, roedd angen MedTRiM fwy nag erioed.

Roedd y Gronfa Atebion Digidol, sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru, yn gyfle i addasu’r hyfforddiant i fformat digidol. Cynigiwyd cyllid i bum cynllun iechyd digidol buddugol, fel rhan o wahoddiad gwerth £150,000 i fynd ati’n gyflym i dreialu defnydd arloesol o dechnoleg ddigidol mewn ymateb i Covid-19. Ecosystem Iechyd Digidol Cymru oedd yn rheoli’r gystadleuaeth, ac yn cynorthwyo’r prosiectau buddugol

Amcan

Nod y cynllun peilot hwn oedd datblygu system ddysgu ddigidol er mwyn i’r cwrs MedTRiM fod ar gael yn hwylus – nid dim ond mewn ymateb i Covid-19, ond gan edrych hefyd ar y posibilrwydd o fod yn ddull dysgu cyfunol yn y tymor hir. Roedd y cwrs yn agored i unrhyw un a oedd yn gweithio i GIG Cymru, ac yn darparu fframwaith digidol a hyfforddiant credadwy i ymdopi â chanlyniadau seicolegol niweidiol yn dilyn digwyddiadau a allai fod yn drawmatig.

Cydweithio

Cafodd y prosiect DSF yma ei gyflwyno fel cais ar y cyd rhwng DNA Definitive, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Arweinwyr Grŵp Arloesi GIG Cymru, AaGIC, a MiMentor.

Roedd MiMentor wedi darparu cefnogaeth bwysig yn sgil ei brofiad o ddatblygu llwyfannau dysgu ar-lein. Llwyddodd i wneud cwrs digidol MedTRiM yn un rhyngweithiol, gan ddatblygu senarios dysgu a gwirio gwybodaeth parhaus.

Roedd AaGIC wedi darparu cymorth gweinyddol ac archebu ar gyfer darpar fyfyrwyr a myfyrwyr a oedd wedi cofrestru.

Roedd DNA Definitive wedi defnyddio Arweinwyr Grŵp Arloesi GIG Cymru, arbenigwyr rheoli trawma a chynhyrchwyr cynnwys digidol i fapio a darparu cynnwys addysgu a dysgu. Roedd hyn yn cynnwys fideos addysgu, trosglwyddo nodiadau cwrs presennol MedTRiM, a datblygu cynnwys Llyfr Log Digwyddiadau MedTRiM i iPDF a ffeithluniau defnyddiol.

Heriau

Ychydig iawn o staff y GIG yng Nghymru oedd wedi cofrestru ar gyfer y cwrs yn wreiddiol. Gwelwyd drwy sgyrsiau anffurfiol â chydweithwyr mai’r ffaith nad oedd gan lawer o’r staff y modd i gofrestru ar gwrs fel hyn oedd y rheswm am hynny. Roedd llawer yn gweithio oriau eithriadol o hir, roedd rhai rolau penodol wedi cael eu dileu, ac roedd eraill yn cael eu hanfon i feysydd gwaith newydd. Cawsom adborth hefyd fod diffyg ymwybyddiaeth o MedTRiM, felly fe aethom ati i ymgysylltu’n frwd â Byrddau Iechyd, a gwelwyd cynnydd yn y niferoedd.

Ar y dechrau roedd hefyd yn anodd cadw golwg ar gynnydd y bobl a oedd wedi cofrestru ar y cwrs, gan fod pawb yn dechrau ar adegau gwahanol. Cafodd y rhaglen ei haddasu drwy greu system o dderbyniadau misol, er mwyn sicrhau dyddiadau cychwyn a gorffen tebyg.

Un o’r heriau mwyaf oedd yn wynebu’r dysgwyr oedd gallu cael cysylltiad da â’r rhyngrwyd yn y gweithle. Roedd hyn yn gyfuniad o ddiffyg cysylltiadau WiFi da mewn rhai adeiladau, neu broblemau technegol wrth ddefnyddio offer y GIG i geisio gwneud y cwrs a chael gafael ar gynnwys ar-lein. Roedd hyn yn cyfyngu ar eu gallu i wneud y cwrs, gan fod rhaid ffrydio cynnwys digidol fel rhan o’r cwrs. Bydd hyn yn ystyriaeth allweddol ar gyfer cyrsiau a fydd efallai’n newid i fod yn rhan o ddull dysgu cyfunol.  

Canlyniadau

Mae’r prosiect yn dal ar waith, gyda 322 o ddysgwyr digidol yn gwneud y cwrs ar-lein rhwng mis Hydref 2020 a mis Mai 2021. Mae hyn bron bedair gwaith yn fwy na’r nifer a allai wneud y rhaglen wyneb yn wyneb yn ystod y cyfnod hwnnw o amser.  Roedd amrywiaeth eang o bobl – o ran arbenigedd ac ardal ddaearyddol – yn cofrestru ar y cwrs, gan gynnwys nyrsys, meddygon teulu, staff sy’n gweithio ym maes gofal dwys ac anesthetyddion. Fel rhan o’r cynllun peilot, roedd y rheini a oedd yn gwneud y cwrs yn cael yr hyfforddiant am ddim.

Dywedodd Prif Nyrs Ward a oedd yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru:

Roeddwn i eisiau diolch i chi am yr adnoddau rydych chi wedi’u darparu dros y flwyddyn diwethaf i mi a’m staff. Mae'r adnoddau wedi fy ngalluogi i ymdopi â’r flwyddyn waethaf yn fy mywyd yn ddi-os, ac wedi fy ngalluogi i roi cymorth ychwanegol i’m staff.”

Ar sail y profiad hwn, mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro yn cyflwyno MedTRiM digidol fel hyfforddiant i’r holl staff theatr (22 theatr i gyd). Ac mae Dr Harsha Reddy, Ymgynghorydd Anestheteg a Gofal Critigol, bellach yn mynd ati i gynyddu’r defnydd o’r cwrs ym Mwrdd Iechyd Ysbyty Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Mae diddordeb hefyd mewn defnyddio’r rhaglen hon ar gyfer hyfforddiant y tu hwnt i Gymru, ar draws y DU ac yn rhyngwladol.

Mae’r gefnogaeth gan y Gronfa Atebion Digidol wedi creu gwaddol pwysig o ran sut gellir hyfforddi ac ymgysylltu â staff gofal iechyd yn gyflym drwy raglen ddigidol. Roedd y cynllun peilot wedi galluogi DNA Definitive i greu’r fethodoleg ddigidol angenrheidiol a llwyfan ar gyfer hyfforddiant ar-lein – a oedd yn golygu bod yr hyfforddiant ar gael yn fwy hwylus, ac yn lleihau'r angen i deithio. Mae hyn yn helpu i gyfrannu at dargedau amgylcheddol ehangach, fel y rheini yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Bydd y cwrs MedTRiM digidol yn dal ar gael i staff y GIG yng Nghymru. Mae DNA Definitive bellach yn gallu darparu’r hyfforddiant mewn tair ffordd ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan ddibynnu ar wahanol ofynion: dysgu cyfunol, ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae’r adborth a gafwyd yn y cynllun peilot hwn yn helpu i lywio fersiwn yn y dyfodol o’r cwrs a’r deunyddiau hyfforddi.

I grynhoi, yn sgil y cynllun peilot yma, mae hyfforddiant sy’n gallu helpu gyda’u llesiant wedi bod ar gael yn haws ac yn fwy hwylus i staff gofal iechyd. Mae hefyd wedi agor y drws ar gyfer dull dysgu cyfunol i reoli trawma pan na fydd angen cadw pellter cymdeithasol mwyach. Roedd y cynllun peilot yn gyfle i DNA Definitive greu a phrofi deunyddiau dysgu ar-lein newydd – gan ddarparu adnodd hyfforddi i gynorthwyo’r GIG yn y dyfodol.

Yn ôl Dr Mark Stacey, Deon Cyswllt Cynlluniau Newydd yn AaGIC ac Anesthetydd Ymgynghorol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro:

“O ganlyniad i’r cydweithio a’r dyhead i ddysgu ar-lein yn sgil y pandemig, roedd modd i ni greu cwrs ar-lein o safon eithriadol. Roedd bron yn union yr un fath â'r cwrs MedTRiM wyneb yn wyneb, gwych yr oeddem wedi’i ddatblygu i sicrhau bod y lefelau llesiant mor uchel â phosibl yn y GIG dros y 10 mlynedd diwethaf.

Gan fod y cwrs ar gael ar-lein, gallwn ddarparu llawer iawn o gynnwys priodol ac edrych wedyn ar yr hyn a ddysgwyd gyda’r opsiwn wyneb yn wyneb neu Zoom, gan symud ymlaen o fod yn ymwybodol o’r hyfforddiant i fynd ati i’w ddefnyddio yn yr amgylchedd clinigol i helpu cydweithwyr. Mae angen y model cefnogaeth gan gymheiriaid yma fwy nag erioed ar hyn o bryd, a byddai’n hawdd rhoi’r model ar waith ar draws GIG Cymru gyda chyllid priodol.”

Dywedodd yr Athro Andy McCann, Cyfarwyddwr DNA Definitive:

“Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru a phartneriaid y Cynllun Atebion Digidol.  Gyda’r grant rydym wedi llwyddo, fel tîm prosiect cydweithredol, i ddatblygu a threialu cwrs ac adnodd sy’n canolbwyntio ar y dysgwr ac sy’n seiliedig ar gyd-destun, er mwyn helpu staff y GIG i gynnig cefnogaeth i’w cydweithwyr ar ôl profiadau a allai fod yn drawmatig.”

Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan

Mae llesiant ein staff iechyd a gofal yn bwysicach nag erioed.  Mae’r prosiect yma'n enghraifft wych o sut mae gweithio gyda’r sector preifat i ddatblygu atebion wedi llwyddo i helpu staff i gadw’n iach, gan barhau i ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel yn ystod cyfnodau hynod heriol.” 

Os ydych chi’n weithiwr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru ac yn dymuno archebu lle ar y cwrs MedTRiM ar-lein, ewch i wefan AaGIC neu anfonwch e-bost i heiw.newinitiatives@wales.nhs.uk.

Edrychwch ar linell amser lawn y prosiect