Mae safonau rhyngweithredu yn gydran allweddol o wneud agor saernïaeth GIG Cymru. Drwy gysoni a safoni’r ffordd rydym yn rhyngweithio â’n systemau, gallwn wella’r safonau gwybodaeth ac ansawdd y wybodaeth a geir mewn systemau a ddefnyddir ar draws y GIG yng Nghymru. Bydd yn gwneud y gwaith o integreiddio systemau yn haws ac yn haws ei ddeall, a drwy gyhoeddi safonau cenedlaethol, bydd yn helpu i ddatblygu platfform gwirioneddol agored ar gyfer Cymru. Mae HL7 FHIR yn rhan fawr o hyn.

wires with data

Cefndir

Fe wnaeth Adolygiad o Saernïaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru ddatgelu’r angen i greu saernïaeth ddigidol agored, gan ddefnyddio a gweithredu safonau agored er mwyn caniatáu gwell rhyngweithredu rhwng sefydliadau iechyd a gofal. Adleisir y farn hon yn “Cymru Iachach”, sef strategaeth iechyd Llywodraeth Cymru, sy’n datgan yr angen i:

“Ddatblygu dull ‘platfform agored’ ar gyfer arloesi digidol, drwy gyhoeddi safonau cenedlaethol ar gyfer y ffordd mae meddalwedd a thechnoleg yn cydweithio â’i gilydd, a sut gall partneriaid allanol weithio gyda’r platfform digidol cenedlaethol ac adnoddau data cenedlaethol.”

Mae’r rhaglen Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (DHEW) a’r rhaglen Adnoddau Data Cenedlaethol (NDR) yn gweithio i helpu i wneud saernïaeth dechnegol GIG Cymru yn agored i sefydliadau iechyd a gofal eraill Cymru, yn ogystal ag i bartneriaid yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Rydym yn gwneud hyn drwy ymgysylltu â’r diwydiant a drwy Porth Datblygwyr GIG Cymru Beta i helpu darparwyr gofal iechyd i ddeall APIs (Rhyngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau) presennol GIG Cymru, sef y pyrth sy’n diffinio sut mae systemau TG yn rhyngweithio, ac i hybu datblygiad APIs newydd ar gyfer FHIR.

Mae’r NDR yn awyddus i ddata gael ei rannu yn fwy effeithiol ar draws Cymru a thu hwnt drwy greu dull mwy cydweithredol neu safonedig. Drwy greu a defnyddio APIs FHIR a fydd yn defnyddio safonau data y cytunwyd arnynt yn genedlaethol bydd gwybodaeth iechyd a gofal yn gallu cael ei rhannu’n ddi-dor rhwng systemau rhyngweithredol.

Rhyngweithredu

Mark Frayne yw’r Prif Bensaer Cynorthwyol ar y rhaglen NDR ac arferai weithio yn y tîm DHEW. Rôl Mark yw trosi amcanion y rhaglen NDR yn strategaeth dechnegol ar gyfer rhyngweithredu a safonau data FHIR.

Am ei rôl dywedodd:

“Mae fy rôl i yn ymwneud â rhyngweithredu. Mae’r rhaglen NDR yn ymwneud â defnyddio data yn fwy effeithiol er mwyn cefnogi cleifion a systemau – nid dim ond gofal sylfaenol a gofal eilaidd, ond hefyd ofal cymdeithasol ac eraill, i’n galluogi i gyplysu’r holl ddata hwnnw â’i gilydd.

“Mae gennym lawer o ddata ar gleifion sy’n bodoli mewn llu o wahanol systemau. Mae’n aml yn anodd cael gwybodaeth gan yr holl systemau hynny i roi darlun cydgysylltiedig o ddata iechyd a data gofal cymdeithasol cleifion.”

Felly pam FHIR?

Pan edrychwn ar ryngweithredu, mae angen inni sylweddoli pa mor bwysig yw gweithredu mewn ffordd safonol i sicrhau bod systemau gofal iechyd yn gallu siarad â’i gilydd. Safon ar gyfer cyfnewid data gofal iechyd yw FHIR, gan roi strwythur a fframwaith ar gyfer gwybodaeth sy’n gyffredin mewn lleoliad gofal iechyd – iaith gyffredin sy’n galluogi cymwysiadau gofal iechyd i siarad â’i gilydd.

Mae atebion FHIR wedi cael eu creu ar set o gydrannau modiwlaidd a elwir yn adnoddau, megis Claf, Sefydliad neu Ymarferydd. Gellir yn hawdd gyfuno’r adnoddau hyn mewn systemau gwaith sy’n datrys problemau clinigol y byd gwirioneddol a phroblemau gweinyddol. Manteision eraill i ddefnyddio FHIR yw ei fod yn hawdd ei ddefnyddio a bod iddo fanyleb sydd am ddim i’w ddefnyddio. Mae’n cefnogi saernïaeth ‘REST’ er mwyn datblygu proses integreiddio rwyddach sy’n golygu ei bod yn haws sefydlu systemau newydd. Gallai defnyddio adnoddau FHIR esgor ar lawer o fanteision hefyd – gellir anfon data adnoddau i APIs FHIR fel ‘bwndeli’ grŵp rhyng-gysylltiedig neu fel adnoddau unigol.

Proffiliau

Mantais arall FHIR yw’r gallu i ddefnyddio Proffiliau. Er y bydd gan adnodd FHIR, yn ddiofyn, werthoedd cyffredin y gellir eu harbed (er enghraifft, mae gan Glaf ryw ac enw) gallwch hefyd osod (drwy Broffiliau) gyfyngiadau, estyniadau a safonau lleol ar gyfer adnoddau.

Mae’r tîm NDR yn cydweithredu â thimau GIG Digidol i greu set o safonau FHIR ar draws y Deyrnas Unedig. Mae’r rhaglen, sy’n cael ei galw’n UKCore, wedi cael ei harwain gan dimau GIG Digidol yn Lloegr, gyda’r tîm NDR yn chwarae rhan amlwg drwy gyfrannu at y safonau cenedlaethol hyn ar gyfer y Deyrnas Unedig ar gyfer FHIR.

Meddai Mark:

“Os ydym yn mabwysiadu set o broffiliau FHIR, byddant yn ffurfioli defnyddio FHIR yn y Deyrnas Unedig ac yng Nghymru, felly mae’n bwysig bod yr holl randdeiliaid yn cyfranogi yn y gwaith o ddiffinio’r safonau hynny.

“Mae’n holl bwysig bod sefydliadau yn gallu teimlo bod ganddynt ran i’w chwarae, a bod eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth yn cael eu hystyried.”

Camau Nesaf

Mae’r tîm DHEW eisoes wedi datblygu cyfres o APIs arbrofol y gellir eu gweld drwy Borth Datblygwyr GIG Cymru. Crëwyd y rhain i ddangos sut gallai data’r GIG fod ar gael drwy APIs FHIR ac i helpu i lywio ein dealltwriaeth o sut gallwn ddatblygu safonau FHIR yng Nghymru. Y camau nesaf yw i’r NDR a thimau’r Ecosystem edrych ar sut gall safonau agored gael eu gosod ar gyfer defnyddio FHIR yng Nghymru yn ogystal â sut gellir bwrw APIs FHIR ymlaen i’r cam cynhyrchu. Bydd hyn yn mynd â’r tîm i ddau gyfeiriad – y Gweithgor Safonau Rhyngweithredu a gwaith yr NDR â Chofnod Gofal Swydd Efrog a Humber.

Gweithgor Safonau Rhyngweithredu (ISWG)

I helpu i gadarnhau beth ddylai’r safonau rhyngweithredol fod ar gyfer Cymru, mae’r ISWG wedi cael ei ffurfio â chynrychiolwyr o blith Byrddau Iechyd, rhanddeiliaid allweddol ac aelodau NDR a Thimau’r Ecosystem. Y gwaith cychwynnol yw safoni adnoddau FHIR ar gyfer Cymru. Eisoes wedi eu trafod a’u cymeradwyo mae rhai o’r rheolau a’r confensiynau sylfaenol ar gyfer defnyddio FHIR yng Nghymru - megis enwi confensiynau ar gyfer setiau gwerth a systemau cod Cymru fel y gellir eu cyhoeddi mewn modd dibynadwy a chyson. Mae’r grŵp hefyd yn canolbwyntio ar y safonau data o amgylch mudo Data Cyfeirnodau Sefydliadol i FHIR. Mae data cyfeirnodau yn elfen ac yn gydran hanfodol o’r strategaeth FHIR a’i datblygiad.

Cofnod Gofal Swydd Efrog a Humber (YHCR)

Mae penseiri’r NDR hefyd wedi dadansoddi’r gwaith arloesol a wnaed gan yr YHCR, sydd wedi llwyddo i ddatblygu a gweithredu ei set ei hun o safonau ac fe’i cydnabyddir fel arweinydd mewn rhyngweithredu yn y diwydiant.

Ychwanegodd Mark Frayne:

“Wrth lunio’r strategaeth, ein cylch gwaith yw edrych ar sefydliadau eraill sydd â heriau tebyg i’r hyn sy’n wynebu sefydliadau gofal iechyd yng Nghymru. Rydym wedi bod yn ymgysylltu ag YHCR, sy’n arweinydd ym maes rhyngweithredu ac mae eu gwaith nhw’n ardderchog. Pe gallem adlewyrchu’r wybodaeth a’r arbenigedd hon, byddwn yn elwa’n aruthrol o’r cydweithrediadau hynny.”

Cytunwyd ar y cynnig, sef gweithredu’r un saernïaeth o’r YHCR i system GIG Cymru ac mae’r gwaith o brofi’r cysyniad wrthi’n cael ei ddatblygu.

Casgliad

Mae rôl y safonau rhyngweithredu yn hanfodol wrth gysylltu systemau a data, i'w defnyddio gan systemau sy'n darparu gofal uniongyrchol, a chan y systemau dadansoddi y mae'r rhaglen NDR yn ceisio eu darparu. Yn flaenorol, cymhwyswyd safonau data yn bennaf i'r data sy'n cael ei allforio o systemau clinigol a gweinyddol i gasgliadau data warws data ac archwilio clinigol. Mae hyn yn aml yn arwain at drosi neu fapio data er mwyn cwrdd â'r safonau hyn ac mae'n dasg anodd a llafurus.

Mae’n bwysig ein bod yn gweithredu safonau gwybodaeth ar draws y GIG yng Nghymru. Drwy ddefnyddio FHIR a phroffiliau FHIR, gallwn sicrhau pan fo data yn cael ei anfon rhwng systemau bod y safonau gwybodaeth yn cael eu gweithredu ac y glynir wrthynt. Y nod eithaf yw bob amser sicrhau’r gofal gorau posibl i gleifion. Mae symleiddio ac uno data gofal iechyd drwy ddefnyddio safonau FHIR yn un ffordd o gyfrannu at y nod hwn.