Yn yr astudiaeth achos hon, a ysgrifennwyd gan Saiba Ahuja, rydym yn ystyried y broses o gyflwyno ymgynghoriadau fideo mewn gwasanaethau therapi lleferydd ac iaith yng Nghymru.
Mae Saiba yn aelod o Banel Cynrychiolwyr Ifanc TEC Cymru sy'n cynnwys pobl ifanc o bob cwr o Gymru. Mae'r grŵp yn cyfarfod yn rheolaidd â thîm TEC Cymru i gydweithio ar brosiectau.
Yn rhan o'i rôl ar y panel, mae Saiba wedi ysgrifennu cyfres o astudiaethau achos ar Wasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru.
Cyflwyniad
Mae ymgynghoriadau fideo (YF) wedi'u cyflwyno'n llwyddiannus a'u defnyddio mewn gwasanaethau Therapi Lleferydd ac Iaith i barhau i roi cymorth i gleifion.
Mae datblygiad iaith yn fater o anghydraddoldeb iechyd sylweddol ac mae pobl ifanc ag Anghenion Lleferydd, Iaith a Chyfathrebu (LlIC) mewn mwy o berygl o brofi canlyniadau hirdymor ar eu lles a'u hiechyd meddwl.
Mae YF gyda therapyddion Lleferydd ac Iaith (ThLlI) wedi bodloni ystod o ddibenion gan gynnwys helpu'r rheiny sydd ag oedi o ran Lleferydd ac Iaith, cynnal asesiadau lleferydd a sain ar blant ifanc, cynghori ar ddysffagia, gweithio ar ddiagnosis awtistiaeth a therapi i'r rheiny ag affasia.
Stori Defnyddiwr; Manteision a Heriau
Ym mis Mai 2020, cynhaliodd ThLlI o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sesiwn therapi ar-lein gyda phlentyn (a rhieni) ag 'oedi cyffredinol o ran cyfathrebu, chwarae a sgiliau echddygol.'
Dwedodd y clinigwr ei bod yn 'alwad fideo gadarnhaol gyda rhieni' a bod YF yn galluogi’r clinigwr i barhau i 'rannu gwybodaeth a'u hyfforddi drwy ei fideos cartref', ac er gwaethaf problemau ansawdd sain ysbeidiol, ystyriwyd bod ansawdd yr YF yn 'rhagorol'.
Gwelodd y claf a'r clinigwr amrywiaeth o fanteision o ran cynnal therapi lleferydd ac iaith yn rhithwir, a chan fod yr YF wedi gweithio cystal, nid oedd gan y naill na'r llall ffafriaeth o blaid apwyntiad wyneb yn wyneb. At hynny, dwedwyd bod y math hwn o apwyntiad yn 'fuddiol iawn' o ran amser y clinigwr a’i fod yn ei gwneud yn haws cael gofal a nododd y ThLlI hefyd y manteision i'r amgylchedd gan nad oedd angen teithio am 30 munud. O ganlyniad, arweiniodd hyn at gyfradd is o risg haint, gan adael y claf a'r clinigwr yn teimlo'n hapus gyda'u profiad cyffredinol.
Ymateb Cyffredinol y Clinigwyr; Manteision a Heriau
Mae'r profiad hwn yn adleisio'r hyn a fynegir gan glinigwyr eraill sy'n cynnal apwyntiadau Therapi Lleferydd ac Iaith drwy YF. Allan o’r 200 o apwyntiadau hyn a gynhaliwyd rhwng 5 Mai 2021 a 7 Gorffennaf 2021:
- Dwedodd 41% o glinigwyr fod eu YF yn 'Rhagorol' neu'n 'Dda Iawn'
- Dywedodd 30% fod eu hapwyntiadau’n ‘Dda’.
Gydag un clinigwr yn esbonio sut roedd 'Ansawdd da iawn yn gwneud asesu lleferydd a sain gymaint yn haws.'
Yn y cyfamser, dwedodd 15% o glinigwyr fod eu hapwyntiadau YF yn 'Iawn' a 14% yn eu hystyried yn 'Wael'. Fodd bynnag, roedd hyn yn aml oherwydd amgylchiadau allanol fel y 'sesiwn yn cael ei chynnal o'r car' mewn un apwyntiad a weithiodd mewn gwirionedd yn ôl y clinigydd ac a oedd yn addas i’r angen clinigol. Rhoes clinigwyr eraill sgôr felhyn gan ddweud bod yr YF yn 'gweithio'n dda gartref ond ddim cystal mewn clinig' neu oherwydd 'ansawdd gwael y llun', gan bwysleisio'r angen am gysylltedd dibynadwy i’r clinigwyr sy'n cynnal yr YF.
Ymateb Cyffredinol Cleifion; Manteision a Heriau
Mae'r stori ddefnyddiwr gadarnhaol uchod yn ategu stori cleifion eraill sy'n cael therapi Lleferydd ac Iaith drwy YF. O’r 200 o apwyntiadau hyn a arolygwyd rhwng 31 Mawrth 2021 a 11 Gorffennaf 2021, dywedodd mwyafrif rhwydd o 114 o gleifion sy’n ffurfio 57% o'r grŵp hwn fod eu hapwyntiad yn 'Rhagorol' gyda 28.5% arall yn dweud bod yr apwyntiad yn 'Dda Iawn' gyda’r cleifion i gyd yn dweud i’r clinigwyr ddal i wneud iddynt deimlo'n 'ymlaciedig iawn' dros y fideo.
At hynny, dywedodd cleifion y cynhaliwyd 'lefel uchel o wasanaeth a gofal' gydag 'ymarferion wedi'u cwblhau'n llwyddiannus' ac mewn llawer o achosion 'roedd ansawdd y llun a'r llais yn 100%', rhywbeth sy’n hanfodol mewn apwyntiadau Lleferydd ac Iaith.
Dywedodd 9% arall o gleifion fod eu hapwyntiad fideo gyda ThLlI yn 'Dda', a dywedodd 3% ei fod yn 'Iawn'. Dim ond 2.5% o gleifion a ddwedodd fod eu profiad yn 'Wael' ac yn y rhan fwyaf o achosion ymddengys fod hyn oherwydd argaeledd band eang, gydag un claf yn dweud 'ein bod yn byw mewn ardal wledig sawl milltir o'r gweinydd agosaf a sawl blwyddyn i ffwrdd o ffeibr optig neu wasanaeth lloeren.' Mae hyn yn amlygu'r angen am well seilwaith a chysylltedd i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau digidol er mwyn sicrhau y gall pob claf gael y gofal gorau posibl.
Trosolwg
Yn gyffredinol, mae adborth o ran defnyddio YF ar gyfer sesiynau Therapi Lleferydd ac Iaith wedi bod yn hynod gadarnhaol, ac yn bwysig iawn, fel y dywedodd un claf, 'rhoddodd yr apwyntiad hyder i mi barhau â'r ymarferion.'