Mewn cais a gydlynwyd gan DHEW, dewiswyd Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth â Gwasanaeth Gwybodeg GIG CymruPrifysgol Abertawe a Gofal Cymdeithasol Cymru fel un o bum Labordy Data Rhwydweithio ‘The Health Foundation’ i'w sefydlu yn y DU yn 2020. Mae'r astudiaeth achos hon yn edrych ar y siwrnai a gymerwyd gan y partneriaid i sicrhau'r cyllid o £400k.

networked data

Trosolwg

Er bod gennym gyfoeth o arbenigedd AI, data ac iechyd digidol yng Nghymru, yn draddodiadol, prin fu ein llwyddiant yn sicrhau cyllid yn yr arena iechyd ar gyfer y meysydd hyn oherwydd diffyg adnoddau, capasiti a sgiliau i reoli ceisiadau.

Cydnabu tîm rhaglen DHEW y gallai Cymru fod yn cael mwy o gyllid i helpu i greu amgylchedd o arloesi digidol ym maes gofal iechyd yng Nghymru, felly aeth ati i sefydlu gwasanaeth cymorth un pwrpas i reoli ceisiadau.

Drwy gyfrwng y gwasanaeth, mae’r tîm yn chwilio am gyfleoedd i ymgeisio am gyllid, yn defnyddio cysylltiadau i ddenu’r partneriaid cywir ar gyfer prosiectau, ac yn cynnig cymorth a phrofiad i ddwyn ceisiadau at ei gilydd.

Cais am gyllid y Labordy Data Rhwydweithiol

Hysbysebodd The Health Foundation gyfle i sefydlu labordai Data Rhwydweithiol, sef rhwydwaith cydweithredol o dimau dadansoddol ar draws y Deyrnas Unedig a fyddai’n defnyddio setiau data cysylltiol i gynhyrchu dealltwriaeth o feysydd hanfodol o iechyd a gofal iechyd y boblogaeth.

Roedd hyd at £400,000 o gyllid ar gael i hyd at dri o bartneriaid lleol dros ddwy flynedd i’w galluogi i gyfranogi yn y cynllun a’u cynorthwyo i ymgysylltu â chleifion a’r cyhoedd, ar gyfer y gofynion technegol, stiwardiaeth data a rheoli’r prosiect.

Byddai’r partneriaid a ddewiswyd yn cydweithio â’i gilydd a gyda’r tîm yn yr Health Foundation i gyflwyno dealltwriaethau wedi’u hysgogi gan ddata o broblemau cyffredin sy’n wynebu’r system iechyd a gofal.

Meddai Helen Northmore, Pennaeth Mabwysiadu Arloesedd (Digidol ac AI) yn Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru:

“Pan gyhoeddwyd cais The Health Foundation, roedd yn amlwg yn gyfle gwych i sefydliadau yng Nghymru geisio sicrhau cyllid a gwella ein gallu ym maes dadansoddeg data. I ddechrau, fe wnaethom dynnu sylw Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) at y cyfle hwn am gyllid gan ei fod yn cyd-fynd â gwaith yr oeddem wedi’i wneud yn y gorffennol i ddatblygu cais i’r Hwb Arloesi Digidol ac yn fuan iawn fe wnaethom ehangu’r bartneriaeth i gynnwys Prifysgol Abertawe, Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHW) a Gofal Cymdeithasol Cymru (SCW). Roedd y bartneriaeth hon yn amlwg yn mynd i fodloni briff y cyllid ac ychwanegu cryn werth i Labordy Data Rhwydweithiol ar gyfer Cymru. Teimlai’r holl bartneriaid fod y seilwaith systemau a data yng Nghymru yn rhoi inni bwynt gwerthu unigryw na fyddai unrhyw ran arall o’r Deyrnas Unedig yn meddu arno wrth gystadlu am y cyllid hwn.”

Y cymorth a gynigiwyd

Defnyddiodd DHEW ei rwydwaith i sefydlu tîm prosiect cydweithredol a oedd yn cynnwys PHW, NWIS, Prifysgol Abertawe (SAIL Databank) ac SCW.

Roedd gan y sefydliadau hyn yr arbenigedd, y wybodaeth a’r profiad angenrheidiol i gyflawni nodau’r prosiect ond nid oedd ganddynt yr adnoddau na’r arbenigedd i lunio’r cais. Darparodd DHEW gymorth i dynnu’r cais am gyllid at ei gilydd. Roedd y gwaith yn cynnwys:

Cam un - Datganiad o Ddiddordeb (EOI) – Rhagfyr 2019

Gweithiodd tîm DHEW gyda thîm y prosiect i gasglu cynnwys ynghyd er mwyn ateb y cwestiynau a oedd yn yr EOI, i ddatblygu cyflwyniad y tîm ac i olygu’r holl wybodaeth er mwyn creu stori ddiddorol a hawdd ei deall ynglŷn â pham dylid dewis y tîm i gyflwyno cais llawn.

Cam dau – Cais llawn – Chwefror 2020

Ar ôl llwyddo i basio’r cam cyntaf, bu tîm DHEW yn helpu i roi’r cais llawn at ei gilydd. Roedd y cais llawn yn cynnwys cynllun 20 tudalen llawer manylach, ynghyd â thaenlen ar gyfer y gyllideb. Buom yn creu cynllun ar gyfer y prosiect gyda llinellau amser ac amserlenni clir ar gyfer datblygu cynnwys, a hefyd yn trefnu cyfarfodydd ar gyfer tîm y prosiect, yn rheoli’r broses ymgeisio, yn lanlwytho’r holl ddogfennau, yn siapio’r cynnwys ac yn cwblhau nifer o adolygiadau o’r cais i sicrhau ein bod yn bodloni’r holl ofynion ac yn cyflwyno dadl gref dros gael y cyllid.

Cam tri – Cyfweliad – Ebrill 2020

Ar ôl llwyddo i basio’r ail gam, cafodd tîm y prosiect ei roi ar restr fer i gael cyfweliad terfynol. Bu tîm DHEW yn helpu i baratoi deunyddiau ar gyfer y cyfweliad hwn, yn trefnu ffug-banel cyfweld gyda chyn-aseswyr ac yn helpu tîm y prosiect i gywreinio ei gais i gynnwys effaith pandemig Covid-19.

Llwyddiant y cais

Ym mis Mai 2020, hysbyswyd tîm y prosiect eu bod wedi llwyddo i gael eu dewis fel partner, ochr yn ochr â phedwar sefydliad partner arall.

Mae Labordy Data Rhwydweithiol Cymru yn awr yn bartner sefydledig o’r rhwydwaith. Bydd yn helpu i ddarparu dealltwriaeth amserol o gwestiynau allweddol sy’n bwysig i iechyd y boblogaeth yng Nghymru, er mwyn arwain polisïau ac ymarfer. Bydd hefyd yn gallu rhannu a chyfrannu at wybodaeth y Deyrnas Unedig ehangach am ddadansoddeg iechyd gymhwysol, a dysgu oddi wrth eraill yn y meysydd hyn.

Meddai Alisha Davies, Pennaeth yr Isadran Ymchwil a Gwerthuso (PHW):

“Roedden ni’n falch dros ben cael ymuno â rhwydwaith gydweithredol y Labordy Data Rhwydweithiol diolch i gymorth tîm DHEW. Bydd y rhaglen gyffrous ac arloesol hon yn ein galluogi i gyflymu’r defnydd o ddata cysylltiol er mwyn rhoi sylw i gwestiynau allweddol ym maes iechyd.

‘Drwy weithio mewn ffyrdd newydd â’r Labordy Data Rhwydweithiol byddwn yn gallu cyflwyno dealltwriaeth amserol a mwy trylwyr o sialensiau iechyd cwbl berthnasol sy’n wynebu Cymru a’r Deyrnas Unedig. PHW fydd yn arwain y prosiect, gydag NWIS, Prifysgol Abertawe ac SCW yn bartneriaid allweddol a fydd yn dwyn arbenigedd i systemau data, cysylltedd data a’u cymhwyso i gwestiynau iechyd a gofal.

‘Gyda’n gilydd, gallwn ddefnyddio data arferol i’r eithaf i roi sylw i iechyd, atal ac anghydraddoldebau ar draws cenedlaethau, a chynhyrchu dealltwriaethau gwerthfawr i arwain penderfyniadau er mwyn gwella iechyd y boblogaeth yng Nghymru.”

Fel yr eglura Sarah Deeny, Cyfarwyddwr Dadansoddeg Data Cynorthwyol yn yr Health Foundation:

“Yr hyn a ddaeth yn amlwg yn ystod argyfwng COVID-19 yw bod gwybodaeth a data cynhwysfawr ac o ansawdd da yn aml yn hollbwysig er mwyn datrys ein problemau iechyd a gofal mwyaf taer. Mae data wedi chwarae rhan hollbwysig er mwyn deall yr heriau a geir gyda’r feirws a chanfod ffyrdd arloesol o ddatrys problemau. Ond mae’r heriau cymhleth hyn yn ymestyn y tu hwnt i’r argyfwng presennol – bydd yr un arloesedd yn angenrheidiol i’r dyfodol i sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal yn bodloni anghenion pobl.”

Beth nesaf

Mae tîm DHEW eisoes yn gweithio ar nifer o geisiadau gyda phartneriaid yng Nghymru, gan gynnwys ceisiadau ar gyfer rhaglen Mabwysiadu Arloesedd The Health Foundation a’r Dyfarniad Deallusrwydd Artiffisial (AI) a gynhelir gan yr Accelerated Access Collaborative (AAC) mewn partneriaeth ag NHSX a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd (NIHR) sydd â £140 miliwn ar gael dros dair blynedd i gyflymu’r gwaith o brofi a gwerthuso’r technolegau AI mwyaf addawol sy’n bodloni’r nodau strategol a geir yng Nghynllun Tymor Hir y GIG.

Ychwanegodd Helen Northmore:

“Yr hyn sydd wedi dod yn glir iawn dros y flwyddyn i’r deunaw mis diwethaf yw bod nifer aruthrol o bobl ddawnus iawn i’w cael yma yng Nghymru sydd ag arbenigedd yn y byd digidol, AI a data ond, er mwyn bod yn llwyddiannus yn y cystadlaethau hyn am gyllid, mae angen ichi gael y cysylltiadau iawn er mwyn creu’r partneriaethau iawn, ochr yn ochr â’r arbenigedd mewn ysgrifennu ceisiadau. Dyna lle’r ydyn ni’n gallu cynnig ein harbenigedd, ein hadnoddau a’n cysylltiadau i helpu sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru i gyflwyno’r cynigion cryfaf posibl am gyllid. Roedden ni wrth ein bodd â llwyddiant cais y Labordy Data Rhwydweithiol ac edrychwn ymlaen at weithio â phartneriaid ar lawer iawn yn rhagor o geisiadau am gyllid i’r dyfodol.”

Edrychwch ar linell amser lawn y prosiect