Sut y gall TEC Cymru helpu

Bydd TEC Cymru yn cefnogi pob darparwr gwasanaeth teleofal yng Nghymru i reoli risgiau mudo digidol, ac ar yr un pryd dderbyn y manteision a mynd ati i chwilio am gyfleoedd i wella’r modd mae’r gwasanaeth yn cael ei gyflwyno. Byddwn yn canolbwyntio ar fudo  Canolfannau Derbyn Larymau (CDL) Cymru yn ddiogel, er mwyn sicrhau y bydd y seilwaith digidol wedi ei wreiddio ar hyd a lled y genedl erbyn diwedd 2023. Trwy fod a seilwaith a sylfeini cadarn, bydd y cyfarpar teleofal cartref a symudol sy’n cael ei gaffael yn ddibynadwy, yn gadarn ac yn amlbwrpas wrth i ni gefnogi’r diwydiant teleofal i symud ymlaen gyda chynhyrchion ac atebion rhyngweithredol.

Bydd TEC Cymru yn cefnogi darparwyr teleofal Cymru ar eu siwrne ddigidol trwy wneud y canlynol:

  • Darparu dogfennaeth berthnasol a phenodol i bob agwedd o fudo: cyn mudo, adeg mudo ac wedyn, gan nodi’r effaith ar wasanaethau
  • Darparu cyngor a chefnogaeth ar y fframweithiau perthnasol a ddefnyddir, a’r llwybrau cydymffurfio priodol ar gyfer caffael
  • Darparu’r diweddariadau diweddar yn y sector/diwydiant trwy ymwneud â rhanddeiliaid
  • Darparu deunydd arbenigol unswydd trwy TEC Cymru, cefnogaeth ymgynghorwyr a chyrff cenedlaethol eraill y diwydiant trwy drefnu cyfarfodydd ar gais
  • Rhannu arbenigedd gan y mudiadau sy’n bartneriaid a ni (Swyddfa Ddigidol Llywodraeth Leol yr Alban, TEC Scotland a Chymdeithas y Gwasanaethau Teleofal (TSA), i sicrhau cysondeb mewn negeseuon ar draws 4 cenedl y DU
  • Darparu cyngor diduedd ar y  cynhyrchion a’r atebion teleofal ‘gorau o’u bath’ sydd ar y farchnad
  • Darparu mynediad at ddogfennaeth i helpu darparwyr gwasanaeth i wneud y gorau o gyflwyno eu gwasanaethau trwy ein Canolfan Adnoddau (cynhwysir rhai dogfennau defnyddiol isod)