Bydd y sawl sy'n trefnu eich apwyntiad yn anfon dolen bersonol atoch naill ai drwy neges destun, e-bost neu lythyr.
Fe fydd arnoch chi angen cyfrifiadur, llechen neu ffôn gyda gwe-gamera, seinydd a meicroffon. Mae'r rhan fwyaf o ffonau, tabledi a gliniaduron modern bellach wedi'u cynnwys yn y rhain. Fe fydd arnoch chi hefyd angen y fersiwn ddiweddaraf o naill ai Google Chrome, Microsoft Edge neu Apple Safari, sydd am ddim i'w lawrlwytho.
Cliciwch ar y ddolen neu ei theipio i mewn i far cyfeiriad y porwr, yna dilynwch y cyfarwyddiadau. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis 'caniatáu' pan fydd y porwr yn gofyn am ganiatâd i ddefnyddio'ch camera a'ch meicroffon gan fod angen y rhain i wneud yr alwad.