1. Rwy'n cael problemau wrth wneud galwad fideo, ble alla i gael help?

Mae'r dudalen datrys problemau hon ar wefan (link)Mynychu Unrhyw Le yn darparu cymorth pellach.

2. A yw'r gwasanaeth hwn yn gyfrinachol ac yn ddiogel i'w ddefnyddio?

Ydy. Mae Mynychu Unrhyw Le yn darparu ymgynghoriad fideo diogel sydd wedi'i gymeradwyo'n gyfrinachol ac yn ddiogel gan Lywodraeth Cymru a GIG Cymru. Nid yw galwadau fideo yn cael eu cofnodi, ac nid oes unrhyw wybodaeth am gleifion yn cael ei storio gan y system.  Nid oes angen i chi lawrlwytho ap na chreu cyfrif i ddefnyddio'r gwasanaeth hwn.

3. Faint mae'n ei gostio i wneud galwad fideo?

Bydd angen i'ch dyfais gael ei chysylltu â'r rhyngrwyd drwy Wi-Fi, 3G, 4G, 5G neu gysylltiad ether-rwyd.

Nid oes cost am ddefnyddio'r gwasanaeth ond efallai y byddwch yn gorfod talu am ddefnydd data i’ch darparwr telathrebu.

Os ydych wedi'ch cysylltu â rhwydwaith Wi-Fi neu gysylltiad ether-rwyd (h.y. cysylltiad rhyngrwyd â gwifrau), yna ni fyddwch yn defnyddio data symudol.  Byddai hyn yn golygu nad ydych yn debygol o wynebu unrhyw daliadau data, yn dibynnu ar y pecyn band eang rydych yn talu amdano neu'n ei ddefnyddio.

Os ydych chi'n defnyddio data symudol, does dim cost i aros i'ch galwad gael ei chysylltu.  Unwaith y byddwch wedi'ch cysylltu, bydd galwad fideo 20-munud nodweddiadol o Mynychu Unrhyw Le yn defnyddio 230MB o ddata ar ddyfais symudol. Mae llai o ddefnydd o ddata ar ddyfeisiadau pŵer a chyswllt cyflymder is.

4. Beth ddylwn i ei wneud os byddaf yn anghofio mynychu apwyntiad ymgynghori fideo, neu os na allaf gysylltu?

Dylech gysylltu â'ch darparwr iechyd neu ofal cymdeithasol a fydd yn eich cynghori ar sut i aildrefnu eich apwyntiad neu fynychu mewn ffordd wahanol.

5. Ble alla i gael gwybodaeth dechnegol am ddefnyddio'r Gwasanaeth Ymgynghori Fideo?

Mae manylebau technegol ar gyfer gwneud galwadau fideo – gan gynnwys yr offer a'r gofynion lled band – ar gael ar y wefan ganlynol.  Mae'r wefan yn cyfeirio at "Mynychu Unrhyw Le" sef y platfform ymgynghori fideo a ddefnyddir gan y gwasanaeth.