Mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn lansio'r gyfres Weminar Adnoddau Data Cenedlaethol (NDR), cyfres o weithdai ar-lein, sesiynau rhannu dwfn a sesiynau gwybodaeth i drafod ac arddangos y gwaith pwysig sy'n digwydd ar draws GIG Cymru sy'n gysylltiedig â'r NDR.
Mae’n gyffrous i ni allu lansio cyfres Gweminar Ar-lein yr Adnodd Data Cenedlaethol (NDR), sef cyfres o weithdai ar-lein, sesiynau at wraidd y mater a sesiynau gwybodaeth i drafod ac arddangos y gwaith pwysig sy'n digwydd ledled GIG Cymru sy'n gysylltiedig â'r NDR.
Mae'r digwyddiad lansio hwn yn gyfle i ddysgu rhagor am yr NDR. Byddwn yn rhannu straeon a safbwyntiau ar sut y gall yr NDR drawsnewid iechyd a gofal ledled Cymru, byddwch yn clywed barn arbenigol ar fentrau mawr a gefnogir gan yr NDR a phartneriaid, a byddwn yn cael trafodaeth agored gyda chi i gasglu eich adborth Mae'n gyfle i chi ddarganfod sut y gallai'r NDR effeithio ar eich gwaith a sut y gallwch chi gymryd rhan hefyd.
Bydd y sesiwn yn rhyngweithiol, a bydd yn cynnwys panel Holi ac Ateb 30 munud i chi ofyn cwestiynau ar y diwedd, felly dewch draw, byddwch yn chwilfrydig a helpwch ni i yrru'r rhaglen NDR ymlaen i Gymru.
Pam cymryd rhan:
- Dysgu beth yw'r NDR a sut y bydd yn newid sut mae iechyd a gofal yn cael ei ddarparu yng Nghymru
- Deall sut mae'r NDR yn cefnogi rhaglenni cenedlaethol a blaenoriaethau iechyd a gofal
- Ymgysylltu â thîm arweinyddiaeth yr NDR ac arbenigwyr iechyd a gofal i roi eich barn ar y rhaglen
- Deall sut y gallwch chi gymryd rhan a chyfrannu
Agenda a Siaradwyr:
Mae’r siaradwyr sydd wedi’u cadarnhau yn cynnwys:
- Ifan Evans - Cyfarwyddwr Trawsnewid Digidol, Llywodraeth Cymru
- Paul Howells - Arweinydd Rhaglen Yr Adnodd Data Cenedlaethol
- Sally Lewis - Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Darbodus yn Seiliedig ar Werth
- Andy Haywood - Cyfarwyddwr Gwasanaeth Digidol, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaeth Ambiwlans Cymru
- Allan Wardhaugh - Prif Swyddog Gwybodaeth Glinigol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Helen Northmore - Pennaeth Mabwysiadu Arloesedd (Digidol a Deallusrwydd Artiffisial), Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru
Bydd agenda fanwl a gwybodaeth bellach am y digwyddiad yn dilyn maes o law.