Bu tîm Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yn arddangos yn y Sioe Gofal Iechyd Digidol yn ExCeL Llundain ar 26 a 27 Mehefin. Mae’r Sioe Gofal Iechyd Digidol yn rhan o Sioe flynyddol Health+Care yn Llundain.
Y Sioe Health+Care yw digwyddiad iechyd a gofal cymdeithasol integredig mwyaf Ewrop. Mae’n meithrin perthnasoedd rhwng comisiynwyr, darparwyr a chyflenwyr. Daeth dros 6,000 o bobl i’r sioe dros y ddau ddiwrnod, yn cynnwys dros 200 o arddangoswyr a 400 o siaradwyr arbenigol ac arweinwyr sectorau.
Aethom yno i siarad am yr Ecosystem, ochr yn ochr â chyd-weithwyr o Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, yr Hwb Gwyddorau Bywyd a Cyflymu. Roeddem ni’n chwifio’r faner dros Gymru fel lle i ddatblygu arloesedd ym maes gofal iechyd. Hefyd fe wnaethom ni ddangos ein rhyngwynebau rhaglennu cymwysiadau prawf, sydd wedi cael eu datblygu gan Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru fel rhan o'r rhaglen Ecosystem.
Dywedodd Helen, Rheolwr Cyflawni'r Rhaglen, Ecosystem Iechyd Digidol Cymru:
“Cawsom ni ddau ddiwrnod ardderchog yn siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, academyddion, clinigwyr ac arweinwyr y diwydiant o bob rhan o’r DU ynghylch arloesi ym maes gofal iechyd digidol. Mae’r digwyddiad wedi ein helpu i wneud cysylltiadau allweddol ar draws y sector, ac rwy’n edrych ymlaen at y trafodaethau manylach a'r cyfleoedd sydd i ddod yn yr wythnosau nesaf.”
Roedd y digwyddiad yn un prysur i’r tîm ac roedd yn gyfle i gwrdd â chomisiynwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol allweddol o bob rhan o’r DU a thu hwnt. O ganlyniad, daethom ni oddi yno â dros 80 o bosibiliadau ar gyfer rhagor o drafodaethau a chyfleoedd posibl.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn cael y wybodaeth ddiweddaraf am newyddion a digwyddiadau'r Ecosystem Iechyd Digidol? Os nad ydych chi wedi gwneud yn barod, cofiwch gofrestru i gael copi o’n cylchlythyr.