teccymru
,
-

Gydag ymgynghori fideo (YF) yn camu mewn i fusnes fel arfer ac nid ymateb pandemig yn unig, mae mwy a mwy o arbenigeddau yn y GIG yn ymgorffori YF yn eu hymarfer.

boy and mum on video consult

A oes angen i chi gynnal asesiadau corfforol o gleifion fel rhan o'ch rôl neu i ddarparu ymyrraeth / triniaeth? Ydych chi'n defnyddio ymgynghori fideo i'w potensial llawn? Yn y weminar hon, byddwch yn clywed gan glinigwyr sydd wedi addasu i ddefnyddio ymgynghori fideo i gynnal asesiadau corfforol a chynnig ymyrraeth ar-lein.

Pwy mynychodd?

  • Therapyddion celf
  • Therapyddion cerdd
  • Therapyddion drama
  • Dietegwyr
  • Therapyddion galwedigaethol
  • Orthoptwyr
  • Orthotyddion
  • Parafeddygon
  • Ffisiotherapyddion
  • Podiatryddion
  • Seicolegwyr
  • Prosthetyddion
  • Therapyddion Lleferydd ac Iaith

Gwnaethom drafod:

  • astudiaethau achos bywyd go iawn o gynnal asesiadau corfforol a chynnig triniaeth ar-lein
  • awgrymiadau ymarferol ar sut i ddefnyddio ymgynghori fideo ar gyfer asesiadau corfforol ac ymyriadau
  • sut mae ymgynghori fideo yn integreiddio mewn i fusnes fel arfer yn y GIG ar ôl y pandemig

Siaradwyr

  • Leah Watson, Therapydd Lleferydd ac Iaith yn BIP Bae Abertawe
  • Diarmaid Ferguson, Cadeirydd y Llwybr Poen Cefn Cenedlaethol a'r Rhwydwaith Clinigol yn Northumbria Healthcare NHS Foundation Trust
  • James Druce-Perkins, Dietegydd yn BIP Aneurin Bevan

Wedi colli'r digwyddiad? Peidiwch â phoeni, gallwch ddal i fyny yma: