,
-

Ymunwch ag Ecosystem Iechyd Digidol Cymru mewn digwyddiad i rannu gwybodaeth am y cyllid a’r cymorth sydd ar gael ym maes AI ac arloesedd digidol ar gyfer y GIG, academia a diwydiant yng Nghymru.

11:00am – 13:00pm 27 Ebrill 2022,

A photo of the details for the event

Ydych chi’n chwilio am gyllid i gefnogi eich gwaith AI ac arloesedd digidol ym maes iechyd a gofal?

Bydd darpar gyllidwyr o bob rhan o’r sbectrwm yn bresennol yn y digwyddiad yn sôn am rai o’r cyfleoedd sydd ar gael i’r GIG, i’r byd academaidd ac i ddiwydiant gan drafod y dulliau gorau o wneud cais am gyllid i gefnogi AI ac arloesedd digidol ym maes iechyd a gofal yng Nghymru.

Byddwn yn edrych ar y cyd-destun cyllido presennol yng Nghymru ac yn tynnu sylw at y cyfleoedd sylweddol ym maes iechyd a gofal o ran AI ac arloesedd digidol. 

Bydd y digwyddiad yn gyfle i gyllidwyr ymgysylltu â rhanddeiliaid o ecosystem arloesi rhyng-gysylltiedig a dwys iawn ar draws GIG Cymru, y byd academaidd a diwydiant.

Deall cyllid

Bydd y digwyddiad yn helpu sefydliadau yng Nghymru i ddeall y canlynol:

  • y cyllid sydd ar gael ar gyfer prosiectau AI ac iechyd a gofal digidol,
  • y cymorth sydd ar gael heblaw am arian, a’r
  • ffyrdd gorau o gael gafael ar gyllid.

Rhannwch y cyfle hwn â’ch rhwydwaith ac archebu eich tocyn am ddim heddiw.

Archebu eich lle am rhad ac am ddim
Archebu eich lle