Ymunwch â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, Ecosystem Iechyd Digidol Cymru, Iechyd a Gofal Digidol Cymru a Thechnoleg Iechyd Cymru wrth i ni ddod â datblygwyr digidol a darparwyr gwasanaethau ynghyd i rannu mewnwelediadau ar y cyfleoedd ar gyfer atebion digidol ym maes iechyd a gofal.
Datrysiadau digidol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru (Dydd Mercher)
Datrysiadau digidol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru (Dydd Iau)
23-24 Mawrth 2022

Bydd y digwyddiad digidol deuddydd yn dod â datblygwyr digidol a darparwyr gwasanaethau ynghyd i rannu mewnwelediadau ar y cyfleoedd ar gyfer atebion digidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.
Drwy gydol y ddau ddiwrnod, bydd siaradwyr o bob rhan o’r sector iechyd digidol yn ymuno â ni i edrych ar feysydd fel:
- Strategaeth Ddigidol Llywodraeth Cymru
- Ystorfa Ddata Genedlaethol
- System Gwybodaeth Dyfeisiau Meddygol.
Byddwn hefyd yn defnyddio ystafelloedd digidol rhyngweithiol trwy gydol y dyddiau ar gyfer trafodaethau ac i rannu syniadau.
Archebwch eich tocynnau am ddim i'r digwyddiadau ar-lein isod.
Datrysiadau digidol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru (Dydd Mercher)
Datrysiadau digidol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru (Dydd Iau)
Bydd y digwyddiad hefyd yn codi ymwybyddiaeth o alwad pwnc digidol Technoleg Iechyd Cymru sydd ar ddod.
Bydd hyn yn rhoi cyfle i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan ddysgu am strategaeth ddigidol Llywodraeth Cymru a gweld arloeswyr yn cyflwyno eu syniadau i arbenigwyr.