,
-
Ar-lein

Mae'r ail rownd o gyllid ar gyfer y Wobr AI mewn Iechyd a Gofal wedi'i gyhoeddi. Mae'r wobr yn gyfle i gyflymu'r gwaith o ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau AI newydd, gyda thua £85 miliwn o gyllid ar gael.

AI

Er mwyn helpu cwmnïau, prifysgolion a sefydliadau GIG Cymru neu ofal cymdeithasol i ddod at ei gilydd i drafod y gystadleuaeth, y prosiectau a'r cynigion, mae Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ac Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yn cynnal digwyddiad rhwydweithio ar 16 Tachwedd 2020.

Bydd y digwyddiad rhwydweithio yn dwyn ynghyd Arbenigwyr AI a thimau â diddordeb o ddiwydiant, y byd academaidd a GIG Cymru i adeiladu rhwydwaith sy'n cydweithio ar geisiadau am brosiectau AI sydd â'r potensial i ddatrys heriau ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.

GIG Cymru a Gofal Cymdeithasol  

Os oes gennych chi neu aelod o'ch tîm GIG Cymru neu gofal cymdeithasol her y credwch y gallai AI ei ddatrys, dewch i ymuno â ni yng Ngwobr AI mewn Iechyd a Gofal - Digwyddiad Rhwydweithio Cymru. Gallwch drafod eich heriau, a'ch atebion posibl, gyda rhwydwaith AI gydag arbenigwyr o iechyd, diwydiant ac academia.

Diwydiant ac Academia

Os ydych yn sefydliad sydd ag ateb AI arloesol a syniad prosiect a diddordeb mewn treialu eich prosiect yng Nghymru, cyflwynwch eich syniad drwy ein Porth Ar-lein.

Drwy gyflwyno'ch syniad, byddwn yn gallu llunio'r sgwrs yng Ngwobr AI mewn Iechyd a Gofal - Digwyddiad Rhwydweithio Cymru a sicrhau eich bod yn yr ystafell drafod berthnasol.

Archebwch eich lle am ddim nawr yng Ngwobr AI mewn Iechyd a Gofal - Digwyddiad Rhwydweithio Cymru.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni events@lshubwales.com

 

Cofrestrwch eich lle heddiw!
Gwobr AI mewn Iechyd a Gofal - Digwyddiad Rhwydweithio Cymru
Bwciwch nawr