Sut mae gwasanaethau digidol yn cael eu darparu i GIG Cymru, a sut maen nhw’n newid i ddiwallu anghenion ecosystem gynyddol o raglenni gofal iechyd.
Mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn datblygu ac yn rheoli gwasanaethau digidol ar gyfer GIG Cymru. Ac, yn gynyddol, mae’n darparu’r gwasanaethau hynny drwy ddefnyddio Seilwaith, Platfformau a Meddalwedd sy’n cael eu lletya yn y cwmwl fel datrysiadau Gwasanaeth.
Un o nodau Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yw sicrhau bod y gwasanaethau hynny ar gael i ystod ehangach o ddatrysiadau gofal iechyd digidol.
Yn y sgwrs hon, byddwn yn trafod rhai o'r nifer o ystyron sydd i’r term “gwasanaeth” a beth maen nhw’n ei olygu i Iechyd a Gofal Digidol Cymru.
Dewch i’r sgwrs hon os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwybod mwy am y canlynol:
- Rheoli gwasanaethau systemau critigol clinigol
- Sut mae Iechyd a Gofal Digidol Cymru yn symud i ddatrysiadau IaaS, PaaS and SaaS yn y Cwmwl
- Sut mae tîm Ecosystem Iechyd Digidol Cymru yn gweithio i wella mynediad at APIs systemau cenedlaethol
Wedi colli'r digwyddiad? Peidiwch â phoeni, gallwch ddal i fyny yma: