,
-
Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru, CF10 4PL

Bydd y digwyddiad hwn yn trafod y cwestiynau allweddol canlynol...

  • Sut beth yw gwerthusiad da o dechnolegau gofal iechyd digidol?
  • Sut gallwch chi gasglu’r dystiolaeth iawn i ddangos effeithiolrwydd a gwerth eich cynnyrch neu wasanaeth?
  • Sut ydych chi’n gwybod pa dechnoleg fydd yn arwain at y canlyniadau iawn?

 

Evaluating Event Image

Pam y dylech chi fod yn bresennol?

Bydd Fran Beadle o Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) yn siarad am y prosiect e-Nyrsio, yn trawsnewid nyrsio i greu ffordd ddigidol o weithio. Bydd y prosiect, a fydd ar waith ar draws NWIS a phob Bwrdd Iechyd, yn cynhyrchu dogfennau nyrsio digidol a fydd yn dilyn cleifion ar eu taith gofal iechyd. Felly mae gofyn defnyddio’r un iaith nyrsio safonol, lleihau dyblygu a gwella gofal i gleifion. Bydd Fran yn sôn am sut maen nhw’n gwerthuso nifer o gynlluniau peilot sy’n cael eu cynnal ar yr un pryd.

Byddwn yn adrodd yn ôl ar y cynllun peilot Adnabod Amledd Radio (RFID) yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a fydd yn cael ei gwblhau ym mis Medi. Gosodwyd tagiau goddefol ar sganwyr pledren, cadeiriau olwyn a gwelyau ledled yr ysbyty, a oedd yn golygu bod staff yn gwybod ble roedd cyfarpar ar y pryd.

Ym mis Mai, cynhaliodd EIDC a Thechnoleg Iechyd Cymru weithdy i adolygu Fframwaith Safonau Tystiolaeth ar gyfer Technolegau Gofal Iechyd Digidol a ryddhawyd gan NICE yn Lloegr y llynedd. Roeddem yn edrych ar y problemau a’r rhwystrau rhag mabwysiadu'r safonau hynny yng Nghymru. Mae gweithgor wedi’i sefydlu o ganlyniad i'r digwyddiad hwn, er mwyn dechrau arni i fabwysiadu’r safonau hyn yng Nghymru. Byddwn yn rhoi diweddariad ar y safonau i weld sut gallant ei gwneud hi’n haws deall sut beth yw tystiolaeth dda.

 

Cofrestrwch eich lle heddiw!
Digwyddiad Gwerthuso Gwerthusiad yr EIDC
Bwciwch nawr trwy Eventbrite