,
-
,
Ar-lein

Bydd 8fed Hac Iechyd Cymru yn cael ei gynnal ar-lein ar 10 ac 17 Tachwedd, ac unwaith eto, mae’n gyfle gwych i staff y GIG, prifysgolion a’r diwydiant gydweithio a rhwydweithio i ddatblygu syniadau cam cynnar a allai ddatrys heriau iechyd gweithredol yng Nghymru.

welsh health hack logo

Bydd y cyfranogwyr yn clywed gan arbenigwyr arloesi a fydd yn cynnig cyngor ar sut mae bwrw ymlaen â’r atebion arfaethedig. Bydd hefyd cyfle iddynt sicrhau rhan o’r wobr o £200,000 sydd wedi’i hariannu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac Agor IP. 

Hoffech chi gyflwyno her?

Oes gennych chi neu’ch tîm her iechyd a gofal a allai elwa o ateb arloesol? Os felly, ymunwch â Hac Iechyd Cymru drwy gyflwyno eich her yma. Ar ôl cyhoeddi eich her, bydd cyfle i gydweithwyr o'r sector iechyd, y diwydiant a’r byd academaidd rwydweithio a dechrau trafodaethau ynghylch meysydd yr her cyn y digwyddiad.

Mae rhan gyntaf y digwyddiad yn canolbwyntio ar gyflwyno eich her a dod o hyd i bartner i gydweithio ag ef. Yn ystod ail gam y digwyddiad byddwch yn datblygu ateb i’w rannu â chynulleidfa a phanel o feirniaid. 

Ydych chi eisiau cydweithio i ddod o hyd i atebion?

Gallwch weld yr Heriau, eu hoffi a rhoi sylwadau amdanynt mewn 3 cham syml:

1.    COFRESTRWCH /MEWNGOFNODWCH i Borth Arloesi Hac Iechyd Cymru.

2.    EDRYCHWCH ar yr Heriau sydd o ddiddordeb i chi a’u HOFFI.

3.    RHOWCH SYLWADAU ar waelod yr her(iau), gan roi eich barn bersonol a phroffesiynol. 

Hoffech chi ymuno â’r digwyddiad?

Cofiwch gofrestru i ymuno â’r ddwy elfen o ddigwyddiad Hac ar-lein:

Cyflwyno heriau,10 Tachwedd, 7pm  

Datblygu atebion, 17 Tachwedd, 7pm

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, gallwch gysylltu â’r trefnwyr yn events@lshubwales.com