Mae Rhwydwaith Canser Cymru, ar ran Grŵp Gweithredu Canser yng Nghymru, yn dod â chydweithwyr yn y diwydiant ynghyd i rannu gwybodaeth am y sefyllfa sydd ohoni o ran heriau presennol, cyfeiriad strategol, ymchwil, ymyriadau a chyfleoedd ar gyfer arloesi cydweithredol. Mae’r grŵp wedi dod ynghyd â Chanolfan Ymchwil Canser Cymru a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru i ddarparu cyfres o weithgareddau, a fydd yn cychwyn gydag achlysur Lansio Fforwm y Diwydiant ar 4 Hydref.
Byddwn yn cyflwyno ein digwyddiad cydweithredol nesaf hefyd, sef Her Arloesi Canser, a fydd yn cael ei gynnal ar 28 a 29 Tachwedd. Bydd cyfranogwyr yn cael cyfle i weithio’n ddwys i ateb heriau a fydd wedi cael eu cynnig ymlaen llaw gan y rheini sy’n ymwneud ag ymchwil a gofal canser. Gallai’r atebion dan sylw ddod yn sgil cydweithio â chi neu â chydweithwyr yn y diwydiant.
Bydd côr anhygoel Gofal Canser Tenovus yn ymuno â ni i berfformio a byddwn yn gwerthu cacennau. Bydd yr holl arian a godir yn cael ei rannu rhwng Cymorth Canser Macmillan a Gofal Canser Tenovus.
I’r rheini ohonoch sy’n awyddus i ymuno ar ôl cinio, bydd Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru (PHWSD) yn rhoi manylion eu systemau data digidol a’r modd y gellir eu rhoi ar waith mewn dau wasanaeth, Bron Brawf Cymru (BTW) a Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (DESW). Mae gan PHWSD ddiddordeb mawr mewn archwilio sut gellir defnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i ateb yr heriau sy’n effeithio ar y ddau wasanaeth hyn mewn perthynas â mwy o alw a llai o adnoddau yn sgil heriau o ran y gweithlu. Mae amlinelliad o waith PHWSD a disgrifiad manylach o’r cydweithio ar gael yn y papur hwn a rennir gan yr Is-adran. Gwahoddir cydweithwyr yn y diwydiant i ddatblygu a chynnig cyflwyniad byr ar sut hoffai eich cwmni weithio mewn partneriaeth â PHWSD i ddefnyddio'r data hwn i ddatblygu gwasanaethau o’r radd flaenaf.
Mae’r agenda lawn i’w gweld isod. Rhaid cofrestru i fod yn rhan o’r cyfle hwn i greu cysylltiadau rhwng cynrychiolwyr allweddol yn y diwydiant a’r systemau gofal ac ymchwil canser yng Nghymru.
Os bydd gennych chi unrhyw gwestiynau, mae croeso i chi gysylltu â thîm digwyddiadau Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar events@lshubwales.com a fydd yn gallu delio â’ch ymholiad.
AGENDA’R DIGWYDDIAD
- Croeso - 9am
- Cyflwyno'r cefndir yng Nghymru: Cenedl fach, cyfleoedd mawr (Tom Crosby, Rhwydwaith Canser Cymru)
- Astudiaethau achos - arloesi (Steve Conlan – Canolfan Ymchwil Canser Cymru)
- Blaenoriaethau ar gyfer y diwydiant: Sut gall Cymru helpu i wireddu uchelgeisiau’r diwydiant? Sesiwn holi a thrafod gyda’r llawr i ddeall blaenoriaethau’r diwydiant a lle mae cyfleoedd posibl i gydweithio.
- Cyflwyniad i ddigwyddiad Her Arloesi Canser
- Crynodeb o’r trafodaethau a sut dylem ni symud ymlaen
- Côr Tenovus
- Cinio a rhwydweithio
- Trosolwg gan Is-adran Sgrinio Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddata a chyfeiriad strategol: - Bron Brawf Cymru (BTW) - Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru (DESW)
- Cloi - erbyn 3pm