,
-

Mae’r digwyddiad hwn yn gyfle i’r rhai sy’n bresennol ddysgu am openEHR a chynyddu eu dealltwriaeth o’r dechnoleg hon sy’n cael ei defnyddio ar draws amrywiaeth o sefydliadau yn y DU. 

heart

Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd bod atebion seiliedig ar openEHR mewn amgylchedd aml-werthwr wedi bod yn ddull llwyddiannus o reoli cofnodion gofal iechyd electronig ar unrhyw raddfa.

Mae’r dechnoleg yn seiliedig ar saernïaeth agored ac ystwyth, gan gefnogi atebion digidol a modern â modelau clinigol sydd wedi’u dilysu. Mae’r rhain yn cael eu storio mewn cronfa niwtral gwerthwr ac yn sail i egwyddorion rhyngweithredu cyffredinol mewn ecosystem llwyfan agored. 

Pwy ddylai fod yn bresennol?

  • Prif Swyddogion Gwybodaeth
  • Prif Swyddogion Gwybodaeth Glinigol
  • Clinigwyr
  • Gwybodegwyr clinigol
  • Gwyddonwyr data
  • Datblygwyr
  • Busnesau bach a chanolig

Pam dylech chi fod yn bresennol?

Bydd y digwyddiad hwn yn darparu trosolwg o openEHR, gan fyfyrio ar y profiad mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi’i ennill fel rhan o’r adolygiad ffurfiol a gynhaliwyd yn ddiweddar. Byddwn yn rhoi sylw i’r canlynol:

  • Cyflwyniad i openEHR
  • Adeiladu ap mewn 7 munud
  • Cronfeydd niwtral gwerthwyr ar gyfer data clinigol strwythuredig
  • Modelau clinigol a sut mae eu rheoli
  • Cefnogi’r gallu i ryngweithredu a’r dull llwyfan agored

Siaradwyr wedi’u Cadarnhau / Arfaethedig

  • Ian McNicoll, Cyfarwyddwr, FreshEHR, OpenEHR International
  • John Meredith, Pensaer Technegol, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru
  • Jonathan Goodfellow, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol Rhwydwaith Cardiaidd Cymru

Wedi colli'r digwyddiad? Peidiwch â phoeni, gallwch ddal i fyny yma: