,
-

Mae’r ail ddigwyddiad hwn ar openEHR yn gyfle i’r rhai sy’n bresennol ddysgu am y dechnoleg a chynyddu eu dealltwriaeth, gan ganolbwyntio ar yr agweddau technegol ar ei saernïaeth.

digital health

Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd bod atebion seiliedig ar openEHR mewn amgylchedd aml-werthwr wedi bod yn ddull llwyddiannus o reoli cofnodion gofal iechyd electronig ar unrhyw raddfa. Mae’r dechnoleg yn seiliedig ar saernïaeth agored ac ystwyth, gan gefnogi atebion digidol a modern â modelau clinigol sydd wedi’u dilysu. Mae’r rhain yn cael eu storio mewn cronfa niwtral gwerthwr ac yn sail i egwyddorion rhyngweithredu cyffredinol mewn ecosystem llwyfan agored. 

Pwy ddylai fod yn bresennol?

  • Prif Swyddogion Gwybodaeth
  • Gwybodegwyr clinigol
  • Gwyddonwyr data
  • Datblygwyr
  • Busnesau bach a chanolig

Pam dylech chi fod yn bresennol?

Bydd y digwyddiad hwn yn darparu trosolwg technegol o openEHR, gan fyfyrio ar y profiad mae Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru wedi’i ennill fel rhan o’r adolygiad ffurfiol a gynhaliwyd yn ddiweddar. Yn y sesiwn hon, byddwn yn rhoi sylw i’r canlynol:

  • Manyleb openEHR a Rhyngwynebau Rhaglennu Cymwysiadau (APIs)
  • Archdeipiau, Templedi a Ffurflenni
  • Archetype Query Language (AQL)
  • Y gallu i ryngweithredu â thrawsnewidiadau HL7 FHIR

Siaradwyr wedi’u Cadarnhau / Arfaethedig

  • Ian McNicoll, Cyfarwyddwr, FreshEHR, OpenEHR International
  • John Meredith, Pensaer Technegol, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru
  • Mark Hunt, Rheolwr Datblygu TG, Somerset NHS Foundation Trust
  • Siaradwyr eraill i’w cadarnhau

Wedi colli'r digwyddiad? Peidiwch â phoeni, gallwch ddal i fyny yma:

Sylwch fod anawsterau sain yn y digwyddiad hwn ac mae peth o'r sain ar goll mewn rhannau.