teccymru
,
-

Mae croeso i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio yng Nghymru fynychu'r sesiwn hon sydd wedi’i chynllunio i roi cymorth ar gyfer cyflwyno gwasanaethau digidol sefydledig fel Teleiechyd o bell yn ogystal â thechnoleg newydd gan gynnwys "wardiau rhithwir" a "monitro o bell". Bydd y gweithdy ar-lein 90 munud yn canolbwyntio'n benodol ar ddarparu’r gwasanaethau hyn yn ymarferol i gleifion ac ymarferwyr.

Poster for Masterclass

Mae monitro cleifion o bell yn ddigidol yn eu cartrefi yn gysyniad hirsefydlog ond dim ond yn ddiweddar y gwelwyd cynnydd yn y niferoedd sy’n ei fabwysiadu.  Ers dechrau pandemig COVID-19, mae Teleiechyd, Teleofal ac ymgynghori dros fideo wedi dod yn fwy prif ffrwd ac mae ymddangosiad y "ward rithwir" yn opsiwn cynyddol ddeniadol i'r GIG yn gyffredinol ddelio â phwysau'r gaeaf a chadw cleifion yn ddiogel yn eu hamgylchedd eu hunain.

Mewn ymateb i'r llu o heriau gofal iechyd sy'n cael eu hwynebu ar hyn o bryd, gan gynnwys diffyg gwelyau ysbyty, gall gwasanaethau digidol gynnig atebion newydd ar gyfer gofal cleifion a llu o gyfleoedd a buddion i gleifion a chlinigwyr.

Clywson ni gan bedwar siaradwr allweddol ar y pwnc hwn a oedd yn cynnwys amser ar gyfer cwestiynau a thrafodaeth.

Trafodwyd:

  • Pryd ydych chi'n dod yn gyfrifol am ddata cleifion y gellir bellach ei gasglu o bell 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos ?
  • Ble ydych chi'n sefyll pan fyddwch chi'n gyfrifol am glaf a all fod filltiroedd i ffwrdd?
  • Sut ydych chi'n sicrhau diogelwch eich claf pan na allwch fod gydag ef mwyach?

Siaradwyr y Digwyddiad

  • Yr Athro Brian McKinstry - Meddyg teulu ac Athro Emeritws e-Iechyd Gofal Sylfaenol ym Mhrifysgol Caeredin.
  • Yr Athro Kier Lewis - Athro Meddygaeth Anadlol yn Ysgol Feddygaeth Abertawe ac Ymgynghorydd ac Arweinydd Anadlol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
  • Dr Rajiv Sankaranarayanan - Cardiolegydd Ymgynghorol ac Arweinydd Methiant y Galon yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Prifysgol Lerpwl.
  • Cheryl Griffiths - Rheolwr Clinigol Ward Rithwir Afan ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

 

Wedi colli'r digwyddiad? Peidiwch â phoeni, gallwch ddal i fyny yma:

Cyflwyniadau: