,
-

Bydd y weminar hon yn gyfle i glywed sut mae pandemig Covid-19 wedi ei gwneud yn ofynnol i sefydliadau’r GIG greu systemau casglu data newydd yn gyflym iawn. Y peth anoddaf yw gwneud yn siŵr bod modd i systemau eraill rannu a deall data.

Interoperability in the time of COVID

Byddwch yn clywed gan dîm Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC), a fydd yn trafod rhai o’r systemau a’r safonau allweddol sydd wedi gwneud y gwaith hwn yn bosibl. Byddant hefyd yn trafod pa waith sydd ar y gorwel i wneud y gallu i ryngweithredu yn haws ei gyflawni yn y dyfodol.

Os hoffech gael trosolwg o saernïaeth ddigidol GIG Cymru a’r gwaith o lywodraethu safonau fel FHIR a SNOMED, ac os oes gennych chi ddiddordeb mewn integreiddio rhaglenni gofal iechyd.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, cysylltwch â'digital@lshubwales.com.


Wedi colli'r digwyddiad? Peidiwch â phoeni, gallwch ddal i fyny yma