Ydych chi'n gwmni iechyd digidol o'r sector preifat? A oes gennych chi ddiddordeb yn y cyfleoedd yn Ne Corea ar gyfer eich cwmni?
Hoffem eich gwahodd chi i ymuno â Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru ar gyfer sioe deithiol yr Adran dros Fasnach Ryngwladol – Seminar Iechyd Digidol De Corea – pan fydd yn dod i Gaerdydd ar 20 Chwefror.
Rydyn ni’n gwahodd cwmnïau dethol rydyn ni’n meddwl y byddai ganddynt ddiddordeb mewn dysgu am system gofal iechyd De Corea, ei diwydiant iechyd digidol a'r cyfleoedd sydd ar gael i gwmnïau'r DU yno.
Mae’r farchnad gofal iechyd digidol yn Ne Corea yn tyfu’n gyflym – amcangyfrifwyd bod y farchnad werth £2.4bn yn 2015, a disgwylir y bydd yn cyrraedd £4.4bn erbyn 2020. Gyda chymorth gweithredol gan y llywodraeth, bydd cynnyrch a gwasanaethau gofal iechyd clyfar yn cael eu masnachu fwyfwy yn ystod y blynyddoedd nesaf – yn y farchnad ddomestig sydd wedi’i datblygu gan Dde Corea, ac ym maes nwyddau traul ar gyfer marchnadoedd rhyngwladol.
Ymunwch â digwyddiad yr Adran dros Fasnach Ryngwladol er mwyn dod i ddeall diwydiant iechyd digidol De Corea yn well. Dyma’ch cyfle chi i ofyn cwestiynau i swyddog yr Adran dros Fasnach Ryngwladol, a chynrychiolydd o Intralink, er mwyn eich helpu chi i ddod o hyd i amryw o gyfleoedd ym marchnad iechyd digidol De Corea.
Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru ebostwich catrin.rees@lshubwales.com.