Am ganllaw ar rai diweddariadau diweddar am nodweddion Attend Anywhere, cymerwch olwg ar ein canllaw.


  • Cwrs Gweinyddwr System Fyw (1 Awr 15 munud) - Mewngofnodi, ardaloedd aros, esbonio’r sgrin, cynnal ymgynghoriad, gwahodd rhywun arall i’r ymgynghoriad, rhoi claf ar gadw, diweddu’r alwad a lle i gael help. Hefyd, sut i greu a rheol ystafelloedd aros, sut i ychwanegu a symud defnyddwyr a sut i wneud newidiadau i ardaloedd aros. (Mae’r cwrs hwn yn gyfuniad o Gwrs Gweinyddwr System a Chwrs Defnyddiwr Gwasanaeth Clinigol)
  • Cwrs Defnyddiwr Gwasanaeth Clinigol Byw (1 Awr) - Mewngofnodi, ardaloedd aros, esbonio’r sgrin, cynnal ymgynghoriad, rhoi claf ar gadw, diweddu’r alwad a lle i gael help.
  • Gweminar Cwrs Defnyddwyr Gwasanaeth Clinigol (45 munud) - Mewngofnodi, ardaloedd aros, esbonio’r sgrin, cynnal ymgynghoriad, gwahodd rhywun arall i’r ymgynghoriad, rhoi claf ar gadw, diweddu’r alwad a lle i gael help. (Mae’r dewis hwn yn golygu bod yn rhaid pasio’r prawf ar-lein)

Rhedir sesiynau byw bob dydd Mawrth, Mercher ac Iau ac eithrio am wyliau banc.

Noder: Mae archebion am y sesiynau byw yn cau 24 awr cyn y digwyddiad, ac yna fe gewch e-bost gyda chyfarwyddiadau am sut i ymuno â’r hyfforddiant ar-lein a dolen unigryw. Mae’r hyfforddiant gweminar ar gael ar unrhyw adeg.

Ffurflen archebu sesiwn fyw ar-lein

Neu

Cwrs gweminar ar-lein (Defnyddwyr Gwasanaethau Clinigol yn unig)

Bydd pob archeb yn awr wedi’u hawtomeiddio trwy’r porthol hwn.

Os na allwch fynychu eich cwrs, does dim angen canslo - y cyfan sydd angen ei wneud yw anwybyddu neu wrthod y cwrs a defnyddio Eventbrite i ail-archebu ar adeg fwy cyfleus.

Byddwch yn derbyn cadarnhad o’ch archeb sesiwn fyw a chyfarwyddiadau cyflawn trwy e-bost wedi 5pm y diwrnod cyn eich sesiwn hyfforddi.