GWYBODAETH YCHWANEGOL BWYSIG 

Daeth yn amlwg y gall rhai ffonau weithiau ddangos pobl yn y drefn wrthdro. Os yw eich ymgynghoriad yn mynnu nodi’r chwith a’r dde yn gywir ar y person, dilynwch y drefn a ganlyn. Gofynnwch iddynt ddal i fyny unrhyw beth sydd ag ysgrifen arno y gallwch ei ddarllen. Os gallwch ddarllen yr ysgrifen yn iawn, maent wedi eu cyfeirio fel petaent wyneb yn wyneb a chi go-iawn. Os na allwch ddarllen yr ysgrifen, gall eu camera fod wedi eu gwrthdroi. Dyma’r drefn fwyaf diogel i gadarnhau hyn, gan y gall rhai cleifion wahaniaethu’n hawdd rhwng chwith a de neu fe allant fod yn llawchwith, felly ni fydd dibynnu ar y llaw ysgrifennu yn fawr o help.

Yn ogystal â defnyddio’r botwm gwahodd a drafodwyd yn y fideo, mae hefyd yn bosib yn awr derbyn dau alwr o’r ardal aros i’r un alwad. Gall hyn fod yn ddefnyddiol, er enghraifft, os ydych wedi archebu cyfieithydd neu fod aelod o’r teulu hefyd eisiau ymuno.. Gofynnwch i’r ddau fewngofnodi i’r ardal aros. Atebwch alwad y claf a chael caniatâd i dderbyn y person arall i mewn. Bydd galwad y claf wedi cychwyn mewn tab porwr newydd. Ewch yn ôl at dab porwr gwreiddiol yr ardal aros a dewis y person arall i dderbyn, cliciwch arno a dewis “ychwanegu at yr alwad”; gofynnir i chi wedyn gadarnhau eich bod yn ei ychwanegu at eich galwad bresennol - cadarnhewch hyn a byddwch yn dod yn ôl i’r alwad gyda’r ddau berson yn yr un modd â defnyddio’r botwm gwahodd.

Rhoi cleifion a chleientiaid yn ôl yn yr ystafell aros a/neu adael i aelodau’r teulu gael trafodaeth breifat

Yn ystod galwad gyda chlaf neu gleient, gan gynnwys unrhyw alwadau lle mae aelodau’r teulu yn bresennol, os cliciwch y botwm “Diwedd” coch a dewis “Gadael yr alwad (dim ond fi)” bydd hyn yn eich cymryd allan o’r alwad a rhoi’r claf neu’r cleient yn ôl yn yr ystafell aros lle gellir eu hateb eto gennych chi neu weithiwr clinigol arall. Fodd bynnag, os oes pobl eraill yn bresennol ar yr alwad, fel aelod o’r teulu neu gyfieithydd, fe fyddant hwythau hefyd yn dychwelyd i’r ystafell aros lle gellir eu codi eto gennych chi neu weithiwr clinigol arall, ond bydd aelodau’r teulu yn aros gyda’i gilydd yn yr alwad lle gallant barhau i gynnal eu trafodaeth breifat eu hunain.

Felly mae’r botwm yn gwneud y ddau beth hwn.


 Dolen Brawf  Gweminar (gwnewch y prawf canlynol pan fyddwch yn barod)

Gwnewch yn siŵr fod eich cyfeiriadau e-bost yn cael eu rhoi i mewn yn ofalus a chofiwch glicio gorffen pan fyddwch wedi gorffen. Cewch wybod trwy e-bost y diwrnod gwaith nesaf (Llun - Gwener) am eich canlyniad. Pob lwc.