teccymru

Yn TEC (Technology Enabled Care) Cymru, rydym wedi treulio'r tair blynedd diwethaf yn casglu data ar bopeth sy’n ymwneud ag iechyd digidol yng Nghymru. Fodd bynnag, oherwydd y pandemig, mae casglu data’n bersonol wedi bod yn heriol. Fe'i casglwyd yn bennaf trwy sianeli digidol (e.e. ffurflenni adborth ar-lein) ac yn aml fe'i cwblhawyd gan unigolion a oedd eisoes yn gyfarwydd â llwyfannau digidol ac yn dueddol o’u defnyddio, gan gyflwyno tuedd. Nawr, wrth i effeithiau'r pandemig ddiflannu, rydym yn ceisio newid y naratif hwn drwy 'Astudiaeth o Farn Cyhoedd Cymru', a nod hyn yw ymchwilio i’r hyn y mae cyhoedd Cymru yn ei wybod, yn ei feddwl a'i eisiau mewn perthynas â gofal a alluogir gan dechnoleg (GAD).

Fel myfyriwr meddygol blwyddyn olaf sy'n gweithio gyda TEC Cymru, mae'r prosiect hwn wedi bod yn arbennig o ddiddorol wrth ystyried fy mhrofiadau fy hun gyda GAD, cyn, yn ystod, ac ar ôl y pandemig, yn ogystal â meddwl ymlaen at weithio fel meddyg. Ar ôl cwblhau lleoliadau o fewn arbenigeddau amrywiol ledled Cymru, rwyf wedi profi amrywiaeth ddemograffig poblogaeth Cymru yn ogystal ag amrywiaeth o agweddau tuag at ofal iechyd a seilwaith y GIG. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd ymchwilio'n ffurfiol i ganfyddiadau'r cyhoedd o GAD o fudd enfawr nid yn unig i'r rhai sy'n datblygu llwyfannau iechyd digidol, ond hefyd i'r holl weithwyr gofal iechyd proffesiynol a staff y GIG.

Mae cynwysoldeb wedi bod yn ganolog i'n strategaeth i sicrhau bod y data hwn yn gynrychioliadol o boblogaeth Cymru. Mae'n hanfodol rhoi cyfle i bawb yng Nghymru ddweud eu dweud, waeth beth fo’u demograffeg, cefndir, profiad digidol neu brofiad o GAD. Mae arolwg yn cael ei ddosbarthu drwy ddulliau ar-lein ac wyneb yn wyneb ledled Cymru, gyda'r nod o dderbyn ymatebion gan 0.3% o boblogaeth Cymru (10,000 o ymatebion). Mae holl gwestiynau’r arolwg wedi'u hysgrifennu yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gall cyfranogwyr ddewis pa iaith i ymateb ynddi wrth ateb cwestiynau testun rhydd, gan hyrwyddo cynwysoldeb. Hyd yn hyn rydym wedi dosbarthu codau QR ar daflenni a phosteri trwy flychau llythyrau ac mewn siopau, toiledau cyhoeddus, prifysgolion, ysgolion, practisau meddygon teulu, fferyllfeydd a mwy. Rydym hefyd wedi sefydlu stondinau mewn mannau cyhoeddus, fel digwyddiadau, cynadleddau ac ysbytai, lle mae aelodau'r cyhoedd wedi cael cyfle i lenwi'r arolwg yn bersonol. Mae hyn yn ein galluogi i gyrraedd y rhai nad ydynt yn gyfforddus yn ddigidol neu nad oes ganddynt yr offer i sganio codau QR. Ymhellach, mae'r ddolen ar-lein wedi'i dosbarthu trwy e-bost, ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar fewnrwydi staff. Drwy'r dulliau hyn, rydym bellach wedi derbyn bron i 4000 o ymatebion ers i ni ddechrau casglu data ym mis Ebrill. Er bod mwy o waith i’w wneud i fwrw ein targed, rydym yn gweld data diddorol iawn a mewnwelediadau gwych gan y cyhoedd hyd yn hyn.

Wrth feddwl am wahanol fathau o GAD, mae'r data'n awgrymu bod gan y cyhoedd yng Nghymru fwy o brofiad a mwy o ymwybyddiaeth o wasanaethau ymgynghoriad fideo (YF) o gymharu â gwasanaethau monitro o bell. Nid oedd hyn yn syndod i mi gan fod gennyf brofiad rhesymol gydag YF ar leoliad yn GIG Cymru, ond ychydig iawn gyda monitro o bell. Pan ofynnwyd cwestiwn agored ynghylch ar gyfer pa gyflyrau iechyd y gellid defnyddio'r naill neu'r llall o'r gwasanaethau hyn, mae awgrymiadau poblogaidd gan gyfranogwyr hyd yma yn cynnwys diabetes, monitro pwysedd gwaed, clefyd anadlol cronig, anhwylderau cysgu, dermatoleg ac iechyd meddwl. Er bod gennyf fy mewnwelediadau fy hun yn seiliedig ar fy arbenigedd meddygol, fy mhrofiadau clinigol a’m llythrennedd digidol fy hun, mae awgrymiadau'r cyhoedd yn cynnig persbectif diddorol. Er bod rhai yn dweud nad ydynt yn teimlo eu bod yn gymwys i ateb y cwestiwn, mae eraill yn defnyddio eu profiadau iechyd eu hunain yn ogystal â phrofiadau teulu a ffrindiau. Maent yn cynnig awgrymiadau gwych nad oeddwn i o reidrwydd wedi’u hystyried fy hun, gan ddangos unwaith eto bwysigrwydd prosiect o'r fath wrth alluogi pobl o bob cefndir a gweithwyr proffesiynol anfeddygol i ddweud eu dweud. Mae'n hawdd iawn meddwl, fel y gweithiwr proffesiynol, mai chi sy’n gwybod orau ac anghofio eich bod yn gwasanaethu'r claf yn y pen draw. Yn GIG Cymru, y claf yw poblogaeth Cymru, felly pwy well i glywed eu barn?

Er bod cymysgedd o farnau ar y defnydd o GAD, mae'n amlwg bod gan fwy o ymatebwyr agwedd gadarnhaol nag agwedd negyddol. Er enghraifft, o'r rhai a oedd wedi defnyddio YF o'r blaen, roedd 65% wedi hoffi'r profiad. O'r rhai nad oedd ganddynt unrhyw brofiad o ddefnyddio GAD, mae tua thri chwarter yn nodi eu bod eisiau ei ddefnyddio yn y dyfodol. Ymadrodd mynych a ddefnyddiwyd i ddisgrifio GAD gan gyfranogwyr oedd y syniad mai dyma'r "ffordd ymlaen" a "dyfodol" gofal iechyd a'r GIG.

"Rwy'n credu ei fod yn syniad gwych! Mae'n hen bryd i'r GIG ddod i'r 21ain ganrif!"

Er ei fod yn cael ei dderbyn fel rhywbeth anochel yn yr oes ddigidol newidiol hon, nid yw pawb yn ystyried y newid hwn yn gadarnhaol.

“Y dyfodol sy'n gadael rhai ar ôl”

“Dyna’n dyfodol ni, ond nid yw'n golygu ’mod i'n ei hoffi"

Mae'n ymddangos bod pryderon penodol fod GAD yn gwahaniaethu yn erbyn yr henoed a'r anabl, yn ogystal â chyflwyno problemau cyfrinachedd ac anwybyddu problemau cam-drin domestig a diogelu. Mae cyfrinachedd yn bwnc hynod bwysig mewn moeseg feddygol ac yn rhywbeth sy'n cael ei feithrin ynom yn yr ysgol feddygol. Yn ogystal, rydym yn aml yn cael ein haddysgu am gam-drin domestig, gan gynnwys sut i gadw golwg am yr arwyddion a delio â'r sefyllfa os oes gennym amheuon. Fodd bynnag, nid yw'r dilemâu hyn byth yn cael eu haddysgu gyda llwyfannau digidol mewn golwg. Sut gall rhywun fod yn siŵr nad oes partner treisgar yr ochr arall i'r camera fideo yn gwrando ar beth sy'n cael ei ddweud? Sut ydych chi’n gwybod bod y claf yn gallu siarad yn agored? Nid oes unrhyw ffordd o wybod a oes rhywun arall yn yr ystafell neu'n gwrando ar ochr arall y drws, yn wahanol i'r rheolaeth sydd gennych chi wrth weld claf yn eich ystafell glinig eich hun. Mae’n hanfodol bwysig ystyried y rhain a'r holl faterion eraill a godwyd wrth symud ymlaen.

Mae'r cyhoedd hefyd wedi gallu awgrymu rhai o fanteision GAD, gyda'r pwyntiau mwyaf poblogaidd hyd yn hyn yn cynnwys manteision amgylcheddol fel llai o deithio, llai o amser i ffwrdd o'r gwaith a threfniadau gofal plant. Thema arall sy’n codi dro ar ôl tro yw lleddfu straen sy'n gysylltiedig â pharcio. Fel myfyriwr, mae'n rhaid i mi yrru i amrywiaeth o safleoedd GIG ar gyfer lleoliadau ac, ar ôl derbyn dirwyon parcio am beidio â chofrestru fy nghar yn gywir yn ogystal â bod yn hwyr ar ôl gyrru rownd a rownd meysydd parcio yn ceisio dod o hyd i le, gallaf yn sicr gydymdeimlo! Y peth olaf sydd ei angen ar glaf sâl neu rywun sy'n mynd i apwyntiad sy’n achosi pryder yw straen parcio ychwanegol, rhywbeth y gall GAD helpu i’w leihau. Mae’r manteision GAD eraill a godwyd gan gyfranogwyr yn cynnwys rhestrau aros llai, mwy o ymreolaeth i gleifion a chydymffurfiaeth.

"Mae GIG Digidol yn ymwneud â gwella canlyniadau cleifion trwy dechnoleg a grymuso pobl i reoli eu hiechyd yn well"

“Cyfle i newid”

Mae'r syniad o "rymuso" unigolion i reoli eu hiechyd yn hanfodol i GAD, ac felly mae'n galonogol iawn gweld y cyhoedd yn rhannu'r canfyddiad hwn. Mae'n bwysig nodi, hyd yn oed ymhlith y rhai sy'n teimlo'n gadarnhaol am GAD, ei bod yn ymddangos bod rhywfaint o bryder o hyd.

“Rwy'n ofalus o optimistaidd”

“Yn gadarnhaol, ond braidd yn frawychus”

Dim ond cipolwg cryno o'r farn, y syniadau a'r awgrymiadau niferus mae'r arolwg hwn yn eu cyflwyno. Er yn fwy cadarnhaol na negyddol yn gyffredinol, mae'r cyhoedd yng Nghymru yn adrodd barn a phrofiadau amrywiol o ran defnyddio GAD. Rhagwelwyd rhai o'r mewnwelediadau hyn, ond gwnaeth eraill fy synnu, sy’n tanategu pwysigrwydd cael barn y cyhoedd. Yr astudiaeth yw'r gyntaf o'i math, ac mae wedi ymrwymo i sicrhau cynrychiolydd sampl diragfarn o boblogaeth gyfan Cymru. Bydd yr arolwg yn aros ar agor tan fis Hydref 2023, neu nes bwrw’r nifer targed o ymatebion, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weld beth arall sydd gan y cyhoedd yng Nghymru i'w ddweud. Bydd gwybod yr hyn y mae'r cyhoedd ei eisiau yn helpu i lunio'r GIG ac, ar lefel fwy personol, fy ymarfer fy hun fel Meddyg. Hefyd, wrth i'r GIG ddod yn fwy digidol, rhaid ymgorffori hyn mewn addysg feddygol. Fel darpar weithwyr gofal iechyd proffesiynol, ni yw dyfodol y GIG. Felly, rwy'n gobeithio y gall canlyniadau'r astudiaeth hon hefyd lywio cwricwla hyfforddi.