teccymru

Ddydd Gwener, 6 Mawrth 2020, cytunodd y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gynllun i weithredu datrysiad ymgynghoriad fideo i bob practis meddyg teulu yng Nghymru o fewn cyfnod o 12 wythnos.

video consulting image

Mae TEC Cymru, sef rhaglen sydd wedi’i noddi gan Lywodraeth Cymru ac sydd wedi’i lletya gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, wedi bod yn treialu datrysiad ymgynghoriad fideo o’r enw AttendAnywhere. Mae’r cyfnod peilot wedi cael adborth da a nodwyd bod y platfform yn addas i’w gyflwyno yn genedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i TEC Cymru ddechrau uwchraddio’r prosiect yn gyflym er mwyn darparu gwasanaeth ymgynghoriad fideo cenedlaethol i bob practis meddyg teulu yng Nghymru.

Mae dau bwrpas i gyflwyno’r gwasanaeth:

  • Er mwyn cynnig mynediad fideo wyneb yn wyneb at feddygon teulu, a hynny i bobl sy’n ymneilltuo rhag Covid-19. Bydd hyn yn helpu i amddiffyn staff rheng flaen rhag cael haint, ochr yn ochr â’r gwiriwr symptomau ar-lein 111, cyfarpar diogelu personol ar gyfer meddygon teulu ac ymgynghoriadau dros y ffôn. Bydd cael ymgynghoriadau mwy pellennig hefyd yn lleihau’r posibilrwydd o halogi rhwng cleifion sy’n mynd i bractisiau meddygon teulu wyneb yn wyneb.
  • Mae Cymru Iachach yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaethau iechyd i ddinasyddion Cymru mewn ffyrdd newydd ac sy’n agosach at y cartref. Mae rhoi’r dewis i ymgynghori â meddygon teulu dros fideo yn cyd-fynd â’r nodau strategol hirdymor hyn.

Mae Llywodraeth Cymru yn deall y bydd angen i bractisiau meddygon teulu ledled Cymru wneud ymdrech fawr er mwyn darparu’r gwasanaeth hwn yn gyflym, ar adeg lle mae gwasanaethau o dan bwysau

“Mae GPCW yn croesawu ac yn cefnogi’r fenter hon yn gyfan gwbl, ar adeg anodd iawn i bractisiau meddygon teulu. Bydd yn helpu rhywfaint i gadw holl staff gofal sylfaenol yn ddiogel yn ystod y cyfnod peilot hwn, yn ogystal â helpu i gynnal gwasanaethau sylfaenol.”

Dr Phil White, Cadeirydd GPCW

Dros y diwrnodau a’r wythnosau nesaf, bydd yr holl fyrddau iechyd a phractisiau meddygon teulu yn derbyn gwybodaeth am y broses gyflwyno gan TEC Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i’r holl bractisiau a byrddau iechyd wneud popeth a allant i sicrhau bod y datrysiad yn cael ei ddarparu yn gyflym, unwaith y byddant yn derbyn y cyfarwyddiadau hyn.

Ysgrifennwyd yr erthygl yma gan Lywodraeth Cymru.