Mae cam cyntaf tystiolaeth TEC Cymru yn dangos bod fideo-ymgynghori yn gyson uchel o ran boddhad, addasrwydd clinigol a derbynioldeb ar draws ystod eang o ddemograffeg cleifion ac arbenigeddau clinigol yng Nghymru. Mae'r data cynnar gan gleifion a chlinigwyr yn awgrymu y bydd fideo-ymgynghori yng Nghymru yn parhau i’r hirdymor.
Mae cam cyntaf y Gwerthusiad o Wasanaeth Ymgynghori Fideo (YF) GIG Cymru bellach wedi'i gyhoeddi, yn seiliedig ar ddata a gasglwyd rhwng mis Mawrth a mis Awst 2020.
Ar sail 10,000 o ymatebion i'r arolwg gan gleifion a gweithwyr phroffesiynol a mwy na 300 o gyfweliadau, mae'r Tîm Ymchwil a Gwerthuso yn TEC Cymru wedi llwyddo i ddefnyddio'r set ddata genedlaethol hon i ddeall sut mae fideo-ymgynghori wedi cefnogi'r GIG yn ystod pandemig COVID-19.
Mae'r gwerthusiad yn cynnwys chwe phennod ac adolygiad o ddeunydd cyhoeddedig. Mae’r data wedi’i rannu’n adran Cymru Gyfan, wedyn fesul Bwrdd Iechyd a sector gofal. Yn seiliedig ar ddata arolygon, mae'n casglu mesurau ynghylch 'defnydd a gwerth' YF megis boddhad, addasrwydd clinigol a derbynioldeb.
Pwyntiau Allweddol:
- Uchel iawn o ran boddhad cleifion a chlinigwyr (mymryn yn uwch ymhlith cleifion).
- Yn glinigol addas ar draws ystod eang o arbenigeddau, sectorau gofal a Byrddau Iechyd.
- Derbynioldeb uchel YF, y credir ei fod yn gysylltiedig â’r 'Dull Cymreig' o roi prosesau digidol ar waith.
- Patrymau data cyson ar draws demograffeg cleifion (oedran, rhyw, lleoliad trefol/gwledig).
- Patrymau data cyson ar draws lleoliadau clinigol a Byrddau Iechyd.
- Brwdfrydedd mawr dros YF yng Nghymru, gyda photensial uchel o ran cynaliadwyedd a defnydd hirdymor ar ôl COVID-19.
Nododd yr Athro Alka Ahuja, Arweinydd Clinigol Cenedlaethol TEC Cymru:
"Mae'r gwerthusiad wedi ein galluogi i gasglu tystiolaeth ar gyfer defnyddio a manteision fideo-ymgynghori mewn gofal iechyd. Mae wedi cipio meysydd o ymarfer da ac arloesol ac wedi ein galluogi i ddarparu'r gwasanaeth yn ddifyfyr wrth i ni symud ymlaen. Gwyddom na fydd y GIG ar ôl COVID byth yr un fath. Bydd ein gwerthusiad a'n hymchwil barhaus yn ein galluogi i gasglu tystiolaeth ychwanegol i sefydlu arfer clinigol da a gwneud fideo-ymgynghori yn fodel cynaliadwy ar gyfer darparu gofal iechyd."
Y Dull Gwerthuso
Yn wahanol i lawer o ddulliau gwerthuso traddodiadol a gynhelir ar ôl treialu gyda samplau bach ac, yn aml, ddethol iawn, cychwynnodd yr ymchwil gan y tîm dan arweiniad Gemma Johns, yr Arweinydd Ymchwil a Gwerthuso, ym mis Mawrth 2020 ar ddechrau'r broses gyflwyno ar draws GIG Cymru.
Gan ddefnyddio methodoleg gymysg gadarn o arolygon a chyfweliadau â chleifion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol, rhennir y gwerthusiad o Wasanaeth Ymgynghori Fideo (YF) GIG Cymru yn gamau ar gyfer yr holl ddibenion dylunio a chasglu, dadansoddi a lledaenu data. Roedd y dull gwella ansawdd amser real yn amhrisiadwy i'r tîm gan y byddai'r canfyddiadau'n llywio'r dull a'r cyfeiriad yn barhaus.
Mae Llywodraeth Cymru a TEC Cymru yn awyddus i fideo-ymgynghori gael ei ddefnyddio ar lefel genedlaethol dros gyfnod hir o amser (isafswm o 3 blynedd), er mwyn sicrhau bod ymchwil Cymru yn gyson ac yn cael ei dehongli'n genedlaethol, ac felly y gellir ei chyhoeddi, gan alluogi Cymru i ddod yn arweinydd ym maes fideo-yngymghori a ffurfio sylfaen dystiolaeth gref.
Fe'i rhennir yn 7 adran, sef:
- Adolygiad o Ddeunydd Cyhoeddedig
- Pennod 1: Data 'byw' Cam 1 o foddhad fideo-ymgynghori (gan ddefnyddio Mynychu Unrhyw Le) gan gleifion & gweithwyr proffesiynol
- Pennod 2: Data 'ôl-weithredol' diwedd cam 1 gan weithwyr proffesiynol yng Nghymru gan ddefnyddio pob llwyfan fideo-ymgynghori
- Pennod 3: Problemau technolegol
- Pennod 4: Gofal Lliniarol ac Unedau Gofal Dwys
- Pennod 5: Adborth Hyfforddiant AA ynghylch YF y GIG
- Pennod 6: Cyfweliadau â Chartrefi Gofal – Cymru Gyfan, Pob Llwyfan YF
Gellir dod o hyd i bob adroddiad ac amrywiaeth o gyhoeddiadau cysylltiedig yma.
Beth nesaf?
Mae Cam 2 y gwerthusiad yn mynd rhagddo'n dda, gyda mwy na 15,000 o ymatebion i'r arolwg eisoes. Mae'n cynnwys mesurau sy'n ymwneud â 'manteision, heriau a chynaliadwyedd' fideo-ymgynghori. Bydd data'n cael ei gasglu rhwng mis Medi 2020 a mis Chwefror 2021.
Mae cyfweliadau Cam 1 a 2 yn cael eu cynnal yn barhaus ar draws y ddau gam ac yn casglu mesurau o 'ddefnydd a gwerth' a 'manteision, heriau a chynaliadwyedd' fideo-ymgynghori, ac felly caiff y data hwn ei ddadansoddi a'i gyhoeddi ar ddiwedd Cam 2 (Mawrth 2021).
Yng Ngham 3, hoffai TEC Cymru nodi mesurau ynghylch 'effeithiolrwydd' ac 'effeithiolrwydd' fideo-ymgynghori. Byddai'r mesur effeithlonrwydd yn cael ei ddiffinio gan berfformiad fideo-ymgynghori. Byddai'r mesur effeithiolrwydd yn cael ei ddiffinio fel perfformiad fideo-ymgynghori o dan amodau 'bywyd go iawn'. Mae'r ddau fesur hyn yn gofyn am fonitro dwys o dan amodau 'delfrydol' a 'rheoledig' – nad yw’n bosibl ar hyn o bryd (oherwydd cyfyngiadau COVID), ac felly byddai'n gynllun gwerthuso hirdymor delfrydol.
Hoffech chi gydweithio ar bapur ymchwil?
Mae TEC Cymru yn awyddus i gefnogi ymchwil a gwerthuso gweithrediad fideo-ymgynghori gyda Byrddau Iechyd a meysydd gwasanaeth penodol. Os oes gennych ddiddordeb mewn cydweithio i greu astudiaethau ymchwil newydd, mae croeso i chi gysylltu â naill ai Gemma.Johns3@wales.nhs.uk neu Alka.Ahuja@wales.nhs.uk