Mae'r Adnodd Data Cenedlaethol yn lansio cyfres o weithdai ar-lein i drafod ac arddangos y gwaith pwysig sy'n digwydd ledled GIG Cymru sy'n gysylltiedig â'r Adnodd Data Cenedlaethol (NDR).
Mae’n gyffrous i ni allu lansio cyfres Gweminar Ar-lein yr NDR, sef cyfres o weithdai ar-lein, sesiynau at wraidd y mater a sesiynau gwybodaeth i drafod ac arddangos y gwaith pwysig sy'n digwydd ledled GIG Cymru sy'n gysylltiedig â'r NDR.
Mae'r digwyddiad lansio hwn yn gyfle i ddysgu rhagor am yr NDR. Byddwn yn rhannu straeon a safbwyntiau ar sut y gall yr NDR drawsnewid iechyd a gofal ledled Cymru, byddwch yn clywed barn arbenigol ar fentrau mawr a gefnogir gan yr NDR a phartneriaid, a byddwn yn cael trafodaeth agored gyda chi i gasglu eich adborth.
Mae'r digwyddiad cyntaf (04.11.2020) yn gyfle i ddysgu rhagor am y rhaglen a bydd yn ddigwyddiad rhyngweithiol â phanel Holi ac Ateb 30 munud ar y diwedd.
Mae'r gyfres weminar yn gyfle i chi ddarganfod sut y gallai'r NDR effeithio ar eich gwaith a sut y gallwch chi gymryd rhan hefyd. Mae’r NDR yn dwyn ynghyd ddata o'r gofod iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n rhoi rhyddid i weithwyr iechyd a gofal proffesiynol ddadansoddi data yn y ffordd y maen nhw ei hangen - ar raddfa.
Mae'r rhaglen uchelgeisiol hon hefyd yn dod â gwahanol feysydd ynghyd i weini data i'w defnyddio ar unwaith gan weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, e.e. trwy apiau.
Bydd yr NDR yn defnyddio rhwydwaith hybrid diogel o systemau sy'n bodoli eisoes gyda warysau data cwmwl ac ar y safle. Mae warws data yn caniatáu ichi ddod â'ch holl ddata ar unrhyw raddfa ynghyd yn hawdd, ac mae'n golygu y gallwch gael mewnwelediadau trwy ddangosfyrddau, adroddiadau gweithredol neu ddadansoddeg ddatblygedig. Mae warysau data yn storio data cyfredol a hanesyddol sy'n cael eu trawsnewid yn ofalus, ac mae eu hansawdd yn cael ei sicrhau er mwyn i arbenigwyr clinigol ddadansoddi'r data.
Gallwch chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau NDR diweddaraf drwy ein Llif Newyddion.