Enillodd TEC Cymru wobr yng Ngwobrau Gofal Iechyd Blaenllaw 2020 am eu cyflwyniad gyflym o’r Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru.
Mae'r Gwobrau Gofal Iechyd Blaenllaw yn dathlu ac yn rhannu gwaith gwych ar draws iechyd a gofal. Maent yn tynnu sylw at dimau, partneriaethau, arloesiadau, syniadau a mentrau gwych sydd wedi gwneud gwahaniaeth.
Cydnabuwyd tîm TEC Cymru a’i bartneriaid o dan y categori ‘Cefnogi Timau Gofal Iechyd trwy Dechnoleg’ am eu cyflwyniad cyflym o Wasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru
Roedd cyflwyno ymgynghoriadau fideo yn rhan annatod o ymateb Llywodraeth Cymru i’r pandemig. Roedd yn caniatáu i weithwyr gofal iechyd proffesiynol gael dull diogel ar gyfer cyfathrebu â chleifion gartref, diogelu staff rheng flaen a lleihau unrhyw risg o drosglwyddo ymhellach.
Oherwydd natur gyflym a digynsail y prosiect, wnaeth tîm TEC Cymru partneri gyda sawl sefydliad er mwyn darparu’r gwasanaeth. Ymhlith y partneriaid roedd CWTCH Cymru, Cymunedau Digidol Cymru, Ecosystem Iechyd Digidol Cymru, Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru a Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru.
Dwedodd Sara Khalil, Arweinydd Rhaglen TEC Cymru:
“Mae'r tîm wrth ei fodd ac yn ddyledus iawn i'r byrddau iechyd sydd wedi croesawu ffyrdd newydd o weithio. Ni allwn danamcangyfrif yn union sut mae'r amgylchiadau hyn wedi magu dyfeisgarwch ac arloesedd. Mae'r gwasanaethau wedi ymateb yn greadigol a gyda meddwl agored, tra bod cydweithredu â'n partneriaid wedi bod yn rhan annatod o ymgynghori fideo yn cael ei ddarparu ar gyflymder o'r fath. Gobeithiwn y bydd hyn yn arwain at drawsnewid tymor hir ar draws GIG Cymru.”
Oes gennych chi ddiddordeb mewn darllen mwy am gyflwyno Gwasanaeth Ymgynghori Fideo GIG Cymru? Edrychwch ar ein hastudiaeth achos ar gyfer y prosiect.