Mae Technoleg Iechyd Cymru (HTW) wedi dechrau chwiliad am dechnoleg sydd â’r potensial i drawsnewid sector gofal cymdeithasol Cymru.

A illustration of a map of Wales with a selection of cartoon people dotted around the map.

Mae wedi lansio galwad yn gofyn i dechnolegau a fodelau o ofal a chymorth sy’n cynnig buddion i’r rheini sy’n defnyddio gofal cymdeithasol gael eu hatgyfeirio i gael eu hasesu.

Mae Technoleg Iechyd Cymru, sy’n arfarnu tystiolaeth ac yn cynhyrchu canllawiau cenedlaethol i lywio mabwysiadu technolegau o fewn systemau gofal Cymru, yn gwahodd pobl sy’n crychu gofal cymdeithasol, gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol, ymchwilwyr, datblygwyr technolegau ac aelodau o’r cyhoedd i gyflwyno eu syniadau. Y dyddiad cau ar gyfer anfon ceisiadau ydy 25 Chwefror 2022.

Gallai’r syniadau hyn gynnwys rhaglenni, dyfeisiau, therapïau a thechnolegau neu fodelau o ofal a chymorth a allai wella bywydau’r rheini sy’n cyrchu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Bydd tîm o ymchwilwyr HTW yn asesu’r dystiolaeth sydd ar gael ar y pynciau gofal cymdeithasol a gyflwynir a gwneir penderfyniadau ynglŷn ag a oes digon o dystiolaeth i gyhoeddi canllaw a allai gefnogi mabwysiadu’r dechnoleg ar gyfer ei defnyddio yng Nghymru.

Meddai Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru, Albert Heaney:

“Mae gofal cymdeithasol yn rhan hollbwysig o’n cymuned ac mae’n gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl ledled Cymru. Pobl sydd wedi cael profiad o’r system gofal drostynt eu hunain sydd yn aml yn y sefyllfa orau i feddwl am ffyrdd arloesol i wella cefnogaeth ar gyfer gofalwyr, y bobl y gofelir amdanynt a’u teuluoedd. Rwy’n annog unrhyw un sydd â syniad ynglŷn â sut y gallwn drawsnewid gofal cymdeithasol i gyflwyno eu syniadau a’n helpu i barhau i wneud pobl sy’n derbyn gofal i deimlo wedi eu parchu a’u gwerthfawrogi fel unigolion.”

Enghraifft ddiweddar o bwnc gofal cymdeithasol y mae HTW wedi darparu canllaw ar ei gyfer yw START – rhaglen cymorth seicolegol wyth wythnos o hyd ar gyfer gofalwyr pobl sydd â dementia, sydd wedi lleihau lefelau iselder a phryder. Daeth canllaw HTW i’r casgliad bod y dystiolaeth sydd ar gael yn cefnogi mabwysiadu rhaglen START yng Nghymru, gan nodi y dylai fod ar gael i ofalwyr y rheini sydd â dementia.

Eglurodd Susan Myles, Cyfarwyddwr Technoleg Iechyd Cymru pam fod y sefydliad mor awyddus i barhau i ymchwilio ffyrdd i gefnogi’r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.

“Mae miliynau o bobl ledled Cymru yn dibynnu ar y sector gofal cymdeithasol i’w cefnogi hwy a’u teuluoedd – o bobl hŷn, pobl ag anableddau a phlant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal. Fel sefydliad gallwn ddefnyddio ein harbenigedd i gefnogi’r sector gofal cymdeithasol i fabwysiadau’r technolegau sy’n rhoi’r budd mwyaf a’r gofal gorau posibl i bobl Cymru.

“Gall unrhyw un gyflwyno pwnc i Dechnoleg Iechyd Cymru. Nid oes angen iddynt fod yn arbenigwr yn y maes. Rydym yn croesawu’n fawr gyflwyniadau gan y rheini sy’n cyrchu cymorth gofal cymdeithasol a’u teuluoedd.”

Ychwanegodd Sue Evans, Prif Weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru:

“Mae defnyddio’r dystiolaeth orau i lywio sut yr ydym yn darparu gofal a chefnogaeth yn hollbwysig i wneud yn siŵr ein bod yn rhoi’r canlyniadau gorau i ddinasyddion. Rydym wrth ein bodd i fod yn gweithio gyda Thechnoleg Iechyd Cymru, sydd â chyfoeth o sgiliau a phrofiadau i werthuso ac arfarnu ffyrdd newydd a gwahanol o weithio a hefyd technoleg newydd. Mae mewn sefyllfa unigryw i gefnogi gofal cymdeithasol yng Nghymru.”

Mae cylch gwaith Technoleg Iechyd Cymru yn cwmpasu technolegau iechyd a gofal cymdeithasol nad ydynt yn feddyginiaethau a allai gynnwys rhaglenni cefnogi, dyfeisiau, profion diagnostig, therapïau seicolegol a newidiadau mewn llwybrau cefnogi.

Meddai’r Athro Peter Groves, Cadeirydd Technoleg Iechyd Cymru:

“Mae’n bwysig bod Technoleg Iechyd Cymru yn gwneud popeth y gall i sicrhau bod y rheini sy’n cyrchu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru yn derbyn y gefnogaeth, yn ôl y dystiolaeth, sydd fwyaf effeithiol ac sy’n gyfystyr â’r defnydd gorau ar adnoddau. Er mwyn cyflawni’r cyfrifoldeb hwn, mae’n bwysig bod HTW yn ymwybodol beth yw’r opsiynau a’r cyfleoedd gorau a allai fod ar gael. Rydym felly’n galw ar bawb sy’n defnyddio neu’n darparu gwasanaethau gofal cymdeithasol i ystyried a oes dulliau newydd, neu rai na ddefnyddir ddigon arnynt, y maent hwy’n ymwybodol ohonynt a allai roi gwelliannau mawr i ddarpariaeth gofal. Os oes, rhowch wybod i ni a defnyddio’r ‘galwad am bwnc’ hwn fel cyfle i ymgysylltu â ni er mwyn gwella bywydau pobl ledled Cymru.”

I gyflwyno pwnc i’r galwad agored am bynciau gofal cymdeithasol gallwch lenwi ffurflen gyflwyno syml. Dylech gyflwyno pynciau erbyn 25 Chwefror 2022.

Byddai tîm HTW yn hapus i'ch cefnogi i gyfeirio technoleg gofal cymdeithasol. Cysylltwch â ni drwy e-bostio Health.TechnologyWales@wales.nhs.uk.