Mae tîm Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (DHEW) wedi bod yn brysur yn ddiweddar gyda nid un, ond dau ddigwyddiad ar 11 Tachwedd.

Dechreuodd y bore gyda gweithdy technolegol yn edrych ar API nesaf yr EIDC, Gofal Cofnod Cymru, wedyn fe symudon ni ymlaen i'r prynhawn lle wnaethon ni edrych ar Raglen Trawsnewid Digidol Llywodraeth Cymru. 

WCR API

Cyflwynodd tîm API DHEW weithdy technegol dwys i’w API nesaf, Cofnod Gofal Cymru. Roedd 40 yn bresennol yn y gweithdy - yn ddatblygwyr ac arbenigwyr gwybodeg o'r diwydiant a'r GIG. Aethom drwy'r API, gan ddangos y bensaernïaeth a'r isadeiledd y tu ôl i'r porth API newydd sbon. Roedd cyfle hefyd i'r gynulleidfa glywed am y safonau diweddaraf a ddefnyddir gan y tîm API sy'n lleihau baich dogfennaeth yn ogystal â chaniatáu rhyngweithredu a gallu i addasu. Dangosodd Dafydd Loughran o Concentric Health sut roedd API Cofnod Gofal Cymru yn gwella ymarferoldeb eu platfform cydsynio. Daeth y digwyddiad i ben gyda thîm o BJSS yn sôn wrth y gynulleidfa am eu datblygiad API diweddar gyda'r Fframwaith Dyfodol TG Meddygon Teulu ac App y GIG, gan drafod rhai gwersi allweddol a ddysgwyd wrth ddatblygu API mewn ffordd ystwyth gan weithio gyda'r sector cyhoeddus. Bydd rhagor o wybodaeth am ein porthol API a datblygiadau yn y dyfodol ar gael yma: https://digitalhealth.wales/cy/porthol-datblygu

 

Gan weithio'n gyflym, trodd y tîm eu sylw at ddigwyddiad nesaf y diwrnod a oedd yn rhoi sylw i Raglen Trawsnewid Digidol Llywodraeth Cymru. Arweiniwyd y prynhawn gan Ifan Evans, Cyfarwyddwr Technoleg, Digidol a Thrawsnewid Llywodraeth Cymru ar gyfer Iechyd a Gofal ac roedd bron i 100 o bobl yn bresennol. Cyflwynodd Ifan y Rhaglen a gyhoeddwyd yn ddiweddar i’r gynulleidfa, gan gynnwys y sylw i lwyfannau a phensaernïaeth agored, yr adolygiad diweddar o bensaernïaeth ddigidol, datblygu Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru yn Awdurdod Iechyd Arbennig a'r bwriad i ddatblygu safonau y cytunwyd arnynt yn gyffredin.

 

­

Aeth Ifan yn ei flaen i egluro ffocws yr Adolygiad Pensaernïaeth Ddigidol, sef asesu i ba raddau mae Pensaernïaeth Ddigidol gyfredol GIG Cymru yn barod i gyflawni'r uchelgais a nodir yn ‘Cymru Iachach’, ac a yw'n raddadwy i ategu trawsnewid digidol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol Cymru. Roedd yr adolygiad yn cynnwys adolygiadau technegol gyda NWIS a gweithdai a chyfweliadau â thros 100 o randdeiliaid allweddol o NWIS, pob Bwrdd Iechyd, a’r prifysgolion, ynghyd â thair “sesiwn ddwys” ym Myrddau Iechyd Aneurin Bevan a Chwm Taf, ac Ymddiriedolaeth Iechyd Cyhoeddus Cymru. 

 

Daethpwyd i dri chasgliad mawr o ganlyniad i'r adolygiad:

  • Y sefyllfa bresennol - mae angen ymagwedd system gyfan fwy safonol a chyfunol ar draws iechyd a gofal cymdeithasol Cymru
  • Cyfle - yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, cydnabuwyd nad yw ymagweddau traddodiadol at ymdrin â thechnoleg ddigidol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn addas at y diben erbyn hyn. Mae’r weledigaeth dechnoleg yn ‘Cymru Iachach’ yn cyd-fynd â’r ffordd o feddwl gyffredinol hon ac yn gyraeddadwy
  • Ymagwedd - mae angen ymagwedd ddeuol fel bod cydnerthedd ac arloesi yn mynd law yn llaw

 

Uchelgais ddigidol GIG Cymru yw canolbwyntio ar gleifion a gwasanaethau, a bod yn ystwyth, er mwyn galluogi arloesi a chydnerthedd, dibynadwyedd a pherfformiad cenedlaethol o’r radd flaenaf. Bydd y bensaernïaeth darged ar gyfer GIG Cymru yn cynnwys sawl cydran, gan gynnwys:

  • Sianeli digidol - rhyngweithio â chwsmeriaid, dinasyddion a chleifion drwy'r cyfryngau digidol
  • Systemau digidol - cydrannau sy'n ategu cymwysiadau digidol/rhyngweithio digidol rhwng cwsmeriaid a'r gwasanaethau
  • Llwyfannau a seilwaith - rhwydwaith craidd a seilwaith storio i ategu'r gwaith o alluogi cydrannau'r platfform yn ddigidol
  • Diogelwch a hunaniaeth - cydrannau sy'n ategu’r gallu i adnabod defnyddwyr, amddiffyn eu gwybodaeth a sicrhau mynediad priodol

 

Roedd cymysgedd ardderchog o gynrychiolwyr y GIG, y diwydiant a'r byd academaidd yn yr ystafell a hwylusodd drafodaethau gafaelgar a oedd yn procio'r meddwl drwy gydol y sesiwn. O ganlyniad i ddigwyddiad y prynhawn, roedd modd i bawb a oedd yn bresennol gael gwell dealltwriaeth o'r adolygiadau sydd wedi digwydd, y cynlluniau a roddwyd ar waith ac uchelgais Llywodraeth Cymru a GIG Cymru ar gyfer gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yn y dyfodol lle bydd y dirwedd ddigidol gymhleth bresennol yn esblygu'n un ystwyth.