Ym mis Medi bu Ecosystem Iechyd Digidol Cymru (EIDC) yn rhan o gynrychiolaeth o Gymru i’r Uwch-gynhadledd Deallusrwydd Artiffisial Iechyd Deallus.  Mae’r uwch-gynhadledd yn gyfle i arweinwyr Deallusrwydd Artiffisial (DA) a Gofal Iechyd o bob rhan o’r byd ddod at ei gilydd a thrafod sut y gellir defnyddio DA i atal a datrys rhai o broblemau gofal iechyd mwyaf y byd, gwella iechyd y ddynoliaeth a phennu agenda DA fyd-eang ar gyfer gofal iechyd yn 2020 a thu hwnt.

Artificial Intelligence Summit 2019

Gyda chymaint o brosiectau DA yn cael eu datblygu yng Nghymru, roedd y tîm yn awyddus i gyfarfod ag unigolion o’r un anian yn yr uwch-gynhadledd fyd-enwog ar DA.  Rydym wedi manteisio i’r eithaf ar y cyfle gwych hwn i godi proffil y rhaglen DHEW a’r prosiectau DA amrywiol sy’n cael eu cynnal yng Nghymru ar hyn o bryd.  Roedd y gynrychiolaeth o Gymru yn cynnwys Tom James, cyn iddo ddechrau yn ei rôl newydd fel Cyfarwyddwr Cynorthwyol - Arloesedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Emiliano Spezi, Arweinydd y grŵp Peirianneg Feddygol ac Arweinydd Delweddau a Dadansoddeg Data Canser ym Mhrifysgol Caerdydd, yn ogystal â Helen Northmore a Catrin Rees o dîm EIDC.

Mynychwyd yr uwch-gynhadledd gan rai o’r prif gyfranogwyr ym maes DA, fel yr esboniodd Emiliano…

“Roedd yn bwysig gweld bod rhai o’r prif gwmnïau Technoleg yn bresennol yn yr uwch-gynhadledd (megis Google, Microsoft, GE Healthcare, IBM, NVidia), cwmnïau Fferyllol mawr (Novartis, Roche) yn ogystal â nifer o gwmnïau newydd a darparwyr Gwasanaethau Gofal Iechyd (NHSX, Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Plant Alder Hey) technolegau DA sy’n datblygu a all drawsnewid gofal iechyd.”

Gydag agenda lawn iawn, fe fynychodd y grŵp nifer o sesiynau cyweirnod, gweithdai a thrafodaethau panel yn ystod dau ddiwrnod yr uwch-gynhadledd.  Roedd gan y digwyddiad ei ap ei hun hefyd, a oedd yn golygu y gallai pawb a oedd yn bresennol drefnu cyfarfodydd a rhannu gwybodaeth dros goffi mewn un o’r nifer o ardaloedd rhwydweithio.

Un o uchafbwyntiau’r uwch-gynhadledd i Emiliano oedd sgwrs gan NVidia, fel yr esboniodd:

“Roedd sgwrs NVidia, ymhlith eraill (e.e. Owkin) yn pwysleisio pwysigrwydd “Dysgu ffederal” sy’n diogelu preifatrwydd wrth alluogi modelau cymwysiadau i ddysgu cwmwl ar gyfer rhagweld/monitro effeithlonrwydd triniaeth a datblygu biofarcwyr gan ddefnyddio data ar raddfa fawr.  Gwelwyd enghraifft o’r dull hwn ym mhrosiect MELLODDY sy’n canolbwyntio ar ddatblygu llwyfan dysgu peiriant sy’n ei gwneud yn bosibl i ddysgu o setiau lluosog o ddata perchnogol er mwyn cyflymu’r broses o ddarganfod cyffuriau gan ddefnyddio ateb sy’n seiliedig ar floc-gadwyn, sy’n diogelu preifatrwydd.”

Un o’r uchafbwyntiau eraill i Emiliano oedd sgwrs gan GE Healthcare, fel yr esboniodd:

“Dangosodd GE Healthcare eu llwyfan dysgu peiriant Edison, a gynlluniwyd i gyfuno a dosbarthu data o ffynonellau gwahanol a chymhwyso dadansoddeg neu uwch algorithmau er mwyn tynnu nodweddion delweddau meddygol yn awtomatig, er enghraifft delweddau pelydr X ac Uwchsain, gwella llif gwaith a chreu dealltwriaeth glinigol, weithredol ac ariannol.”

Drwy ddefnyddio ap y digwyddiad, gallai Tom gwrdd â chynrychiolwyr o wahanol Lywodraethau a sefydliadau o bob rhan o’r byd ac o ganlyniad i hyn, sefydlwyd perthnasau hollbwysig a fydd yn parhau i ddatblygu dros amser ac yn galluogi gwledydd i rannu gwybodaeth.

Meddai Tom:

“Mae DA ym maes Gofal iechyd yn elfen hollbwysig er mwyn lliniaru’r baich ar systemau gofal iechyd datblygedig yn y dyfodol, gan greu arbedion o ran adnoddau a rhyddhau amser clinigwyr ac ymarferwyr wrth i’r pwysau ar wasanaethau barhau i gynyddu.  Mae gan Lywodraethau rôl allweddol yn ystyried y defnydd o DA ar draws meysydd polisi.”

Roedd yn amlwg bod Cymru ar flaen y gad yn yr ymdrech i greu ecosystem bwrpasol ar gyfer iechyd digidol drwy EIDC a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru.  Rhan o waith DHEW yw canfod pa arfer da sy’n digwydd ar draws y byd a galluogi i hynny ddigwydd yng Nghymru.

Dywedodd Catrin:

“Ar ddiwrnod cyntaf yr uwch-gynhadledd fe wnaethom gwrdd â Jess Morley (Arweinydd Technegol DA yn NHSX).  Fe wnaethom drafod 10 egwyddor cod ymddygiad DA y GIG a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.  Un pwynt allweddol a gefais o’r cyfarfod hwn oedd bod NHSX yn croesawu gwledydd eraill i fabwysiadu’r cod ymddygiad hwn.  Yn debyg i’r gwaith y mae DHEW yn ei wneud i fabwysiadu Fframwaith Safonau Tystiolaeth NICE ar gyfer Technolegau Iechyd Digidol yng Nghymru, roedd yn wych deall sut y gallwn fabwysiadu a gweithredu’r 10 egwyddor hyn yng Nghymru i helpu ein system gofal iechyd i sicrhau y gall cleifion elwa ar y dechnoleg newydd orau a mwyaf diogel.”

Mae’r tîm wedi dysgu llawer o’r daith ac roeddent yn falch o allu dod â’r gwersi allweddol hyn yn ôl i Gymru gyda hwy.  Un wers allweddol a ddysgodd Tom oedd....

“Bydd datblygu a sylweddoli beth yw manteision DA yn galw am fframweithiau ategol sy’n galluogi a chefnogi ei gymhwysiad.”

Mae tîm EIDC yn mynychu digwyddiadau allweddol ar hyd a lled y DU ac Ewrop ac yn cynrychioli Cymru fel lleoliad arloesol.  Mae’r tîm yn ymweld â chydweithwyr ar draws y byd i rannu arfer da y byddant yn ei gyflwyno i Gymru.  Gallwch weld y wybodaeth a’r cyflwyniadau y mae’r tîm wedi’u casglu ar y dudalen Ymweliadau.