teccymru

Mae TEC Cymru, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion Cymru a Llenyddiaeth Cymru yn trefnu Dadl Iechyd Meddwl Genedlaethol ar gyfer Ysgolion Cynradd i gyd-fynd ag Wythnos Iechyd Meddwl Plant.

 

 

Wythnos Unedig ar gyfer Lles Meddyliol Plant

Mae'r digwyddiad, a fydd yn rhithwir, yn cynnwys ceisiadau o sawl ysgol gynradd ar draws De Cymru ac fe'i cynhelir ddydd Gwener, 11 Chwefror 2022.

Y pwnc trafod fydd – 'A yw technoleg yn gwella eich iechyd?'

Wrth sôn am y cydweithio, dywedodd yr Athro Alka Ahuja MBE, Arweinydd Clinigol TEC Cymru:

"Mae'r ddadl yn ffordd wych o ymgysylltu â phobl ifanc a dad-stigmateiddio salwch meddwl a mythau cysylltiedig. Gobeithio y bydd y drafodaeth a godwyd gan y ddadl yn helpu'r bobl ifanc i wella eu dirnadaeth o iechyd meddwl a thechnoleg a'i berthnasedd yn eu bywydau bob dydd."

Mae TEC Cymru hefyd yn cydweithio â Choleg Brenhinol y Seiciatryddion yng Nghymru ynghylch Monitro o Bell a Alluogir gan Dechnoleg mewn Ysgolion (TERMS).

Ariennir y prosiect gan Q lab a'i arwain gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Bydd yn ymchwilio i sut y gellir defnyddio gofal a alluogir gan dechnoleg i gefnogi myfyrwyr mewn ysgolion.

Ychwanegodd yr Athro Ahuja:

"Mae pandemig Covid-19 wedi creu heriau mawr i Gymru, ac wedi effeithio ar iechyd y genedl, yn enwedig plant a phobl ifanc.  Mae cau ysgolion, tarfu ar gyfeillgarwch a pheri ansicrwydd ynghylch y dyfodol i gyd yn debygol o fod yn gyfranwyr i'r problemau iechyd meddwl y mae plant yn eu hwynebu. Mae ymyrraeth gynnar yn allweddol i drin salwch meddwl ac yn allweddol i atal plant rhag mynd i argyfwng iechyd meddwl. 

“Credwn fod pandemig Covid-19 wedi creu cyfleoedd newydd, unigryw i hyrwyddo y Dull Ysgol Gyfan tra'n cynnal diogelwch a chreu ffyrdd newydd o weithio sy'n 'ddiogel rhag pandemig' i ryw raddau."