teccymru
,
-
Gyda chynnydd a phoblogrwydd ymgynghori fideo yn y GIG, mae mwy a mwy ohonom yn addasu ein harferion i ddefnyddio’r cyfrwng newydd hwn.
Gweminar gyda chlinigwyr yn trafod yr heriau sy’n gysylltiedig â chael sgyrsiau anodd ar-lein.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i ddeall...
- sut i gyflwyno ymgyngoriadau fideo i gynyddu’r tebygolrwydd o lwyddo
- rhoi awgrymiadau ymarferol i’ch helpu i wreiddio ymgyngoriadau fideo yn eich ymarfer clinigol
- darparu gwell dealltwriaeth o’r sgiliau cyfathrebu gwell sydd eu hangen wrth ddelio â materion sensitif o bell
Clywodd y cynadleddwyr gan amrywiaeth o siaradwyr yn siarad am eu profiadau dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn eu mysg...
- Dr Arianna D'Angelo MD, Ymgynghorydd mewn Cymorth Beichiogi - "Cael sgyrsiau anodd ar-lein am faterion yn ymwneud â ffrwythlondeb"
- Jonathan Pearce, Arweinydd Tîm Cefnogi Teuluoedd, Hosbis y Cymoedd – “Cefnogaeth profedigaeth drwy dechnoleg – Trafod marwolaeth yn wahanol”
- Dr Darren Cousins, Ymgynghorydd Iechyd Rhywiol a HIV – “Ymgynghori heb fasg – Iechyd Rhywiol a Phrofiadau Ymgynghori Ar-lein”
Wedi colli'r digwyddiad? Peidiwch â phoeni, gallwch ddal i fyny yma: