teccymru
,
-

Gydag ymgynghoriadau fideo (YF) yn dechrau cael eu cynnal fel busnes fel arfer ac nid fel ymateb i’r pandemig yn unig, mae mwy a mwy o wasanaethau ar draws iechyd a gofal yng Nghymru yn defnyddio YF yn eu hymarfer.

Close up, one woman has hand on another's arm and offers a glass of water

Yn ystod y 12 mis diwethaf mae dros 50,000 o ymgynghoriadau fideo wedi'u cynnal ledled Cymru mewn gwasanaethau iechyd meddwl.

Yn y weminar hon, byddwch yn clywed gan glinigwyr sydd wedi mabwysiadu ymgynghoriadau fideo fel rhan o'u rolau mewn gwasanaethau iechyd meddwl. Gyda'n gilydd, wnaethon ni drafod y gwahanol ffyrdd y gallwn – a phwysigrwydd – adeiladu perthynas gyda'ch cleifion a'ch cleientiaid mewn modd rhithwir.

Gwnaethom drafod:

  • astudiaethau achos bywyd go iawn o gynnal asesiadau a therapi drwy ymgynghoriadau fideo a chefnogi cleifion, gofalwyr a chleientiaid mewn modd rhithwir
  • sut i adeiladu perthynas gyda'ch claf / cleient
  • awgrymiadau ymarferol ar sut i ddefnyddio ymgynghoriadau fideo ar gyfer asesiadau a therapi
  • sut mae ymgynghoriadau fideo yn dod yn rhan o fusnes fel arfer mewn Cymru ôl-bandemig

Siaradwyr:

  • Dr Neil Kitchiner, Cyfarwyddwr ac Arweinydd Clinigol Ymgynghorol yn GIG Cyn-filwyr Cymru
  • Dr Natalie Elliott, Arweinydd Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Iechyd Ymgynghorol Cenedlaethol ar gyfer Dementia, BIP Caerdydd a’r Fro
  • Dr Raman Sakhuja, Seiciatrydd Ymgynghorol yn Nhîm Iechyd Meddwl Cymunedol Caerdydd, Caerdydd a BIP Caerdydd a’r Fro

Wedi colli'r digwyddiad? Peidiwch â phoeni, gallwch ddal i fyny yma: