Pwy ydyn ni?

Mae Gofal a Alluogir gan Dechnoleg (GAD) yn cynnig ffordd i ni wneud mwy gyda llai, rhoi gofal yn nes at y cartref ac yn rhoi manteision i'n cleifion, dinasyddion a’n gweithlu. 

Amlygwyd manteision defnyddio GAD mewn nifer o strategaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol cenedlaethol, ond cydnabuwyd hefyd fod y nifer sy'n derbyn GAD yng Nghymru yn anghyson ac nad oedd digon o dystiolaeth gadarn. I fynd i'r afael â hyn cafodd TEC Cymru ei sefydlu ddiwedd 2018.

Wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a’i gynnal gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, fe'i sefydlwyd i ddarparu goruchwyliaeth a chyfeiriad ar gyfer GAD yng Nghymru. Ein nod yw cefnogi trawsnewid digidol cynaliadwy ar raddfa a chyflymder. 

Mae ein tîm amlddisgyblaethol yn dwyn ynghyd sgiliau a phrofiad o iechyd, gofal cymdeithasol, darpariaeth ddigidol, y byd academaidd a diwydiant. Gan bontio'r bwlch rhwng polisi, strategaeth a chyllid, mae TEC Cymru'n gweithio gydag amrywiaeth o sefydliadau i ddarparu gwasanaethau a all ddiwallu anghenion defnyddwyr yn well trwy dechnoleg. 

Ewch i'n tudalen cwrdd â'r tîm i gael gwybod mwy. 

Beth yw Gofal a Alluogir gan Dechnoleg (GAD)?

Mae Gofal a Alluogir gan Dechnoleg (GAD) yn disgrifio'r defnydd o dechnoleg gan weithwyr proffesiynol a dinasyddion i gefnogi’r gwaith o hyrwyddo, hunan-weinyddu, monitro neu ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal. Trwy ddefnyddio technoleg fel hyn gallwn atal a rheoli niwed neu salwch yn well, arafu dilyniant anghenion gofal, a chynnal a hyrwyddo annibyniaeth yn y cartref a'r gymuned.  

Yn fras, mae'n cynnwys y mathau canlynol o dechnoleg: Ymgynghoriadau dros Fideo, Teleiechyd a Teleofal a Thechnolegau Cynorthwyol.

Cymerwch olwg ar ein rhaglenni i ddysgu mwy am ein gwaith. 

Ein hamcanion

Drwy gydweithio â'n defnyddwyr a'n partneriaid, a chydag arweiniad tystiolaeth a data, caiff TEC Cymru ei yrru gan yr amcanion canlynol...

  • Cynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o GAD
  • Darparu GAD cyflym, graddedig a chynaliadwy
  • Cefnogi newid diwylliannol ac ymddygiadol
  • Darparu'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer dysgu a buddsoddi

Gallwch ddysgu mwy am ein dull gweithredu yma