• Sut i baratoi am fudo digidol eich Canolfan Derbyn Larwm; gan gynnwys sut i ddatblygu manyleb i gychwyn y broses dendro a rhoi gwybodaeth ddiweddaraf y farchnad i chi am yr atebion priodol sydd ar gael
  • Sut i gynllunio ar gyfer gosod larymau teleofal digidol; rhoi cyngor ar gostau cyfoes, fframweithiau ac ystyriaethau technegol (cysylltedd, protocolau a gallu i ryngweithredu)
  • Gwybodaeth am y ffordd orau i wreiddio Isafswm Set Ddata Teleofal Cymru, Set Galwadau Cymru a Dangosfwrdd Gwybodaeth Busnes.

I drefnu sgwrs ddiduedd a di-dâl, naill ai’n bersonol neu dros Microsoft Teams, ebostiwch y tîm ar:

teccymru@wales.nhs.uk