Skip to main content

Welsh Government logo
  • English
  • X.com
  • Youtube
  • Facebook
  • LinkedIn
Tec Cymru
  • X.com
  • Youtube
  • Facebook
  • LinkedIn
  • Newyddion
  • Blog
  • Digwyddiadau
  • Astudieathau Achos
Tec Cymru
  • Hafan
  • Teleiechyd
  • Teleofal
  • Ymgynghoriadau Fideo
  • Ymchwil
  • Hyfforddiant
  • Adnoddau

Breadcrumb

  1. Hafan

Adran 1: Beth yw Gwerthuso Ymchwil a Gwasanaethau?

Cyflwyniad

Datblygwyr y Fframwaith Gwerthuso Ymchwil a Gwasanaethau gan dîm ymchwil a gwerthuso TEC Cymru ac y mae’n seiliedig ar wybodaeth a phrofiadau y tîm eu hunain. Mae chwe adran i’r fframwaith:

Adran 1: Beth yw Gwerthuso Ymchwil a Gwasanaethau?

Adran 2: Beth yw Gwella Ansawdd?

Adran 3: Agwedd Pedwar-Cam Graddol TEC Cymru

Adran 4: Defnyddio Methodolegau Cymysg

Adran 5: Defnyddio Ymwneud Cleifion a’r Cyhoedd (YCC)

Adran 6: Dolenni a Thempledi Defnyddiol

Mae’r fframwaith yn darparu hyperddolenni drwyddo draw am wybodaeth bellach a phwyntiau cyfeirio.

Pam defnyddio Fframwaith Ymchwil a Gwerthuso?

Crëwyd y fframwaith hwn i roi gwybod i unrhyw un sy’n rhan o drosi digidol sut i ddefnyddio dulliau gwerthuso ymchwil a gwasanaethau. Bydd yn help o ran gwneud penderfyniadau, cyfiawnhau, a mesur a gafwyd gwerth ai peidio.

Gall cychwyn ar brosiect heb gymryd agwedd at werthuso ymchwil a gwasanaethau  arwain at ddiffyg tystiolaeth, gwersi a ddysgwyd, a dogfennu llwyddiant (neu fethiant) y fenter newydd - ac y mae hyn oll yn bwysig er mwyn annog buddsoddi at y dyfodol.

Caiff y fframwaith hwn ei rannu, ei brofi a’i ailadrodd dros amser gyda thimau trawsnewid digidol - mae’n waith ar y gweill!

Beth yw Gwerthuso Ymchwil a Gwasanaethau?

​Mae gan yr Awdurdod Ymchwil Iechyd yn y DU erfyn gwneud penderfyniadau ar-lein sy’n ddefnyddiol i helpu pobl i benderfynu a yw eu gwaith yn dod dan ambarél gwerthuso ymchwil neu wasanaeth-gweler yma

Dyma ddiffiniad buddiol o ymchwil: “Ymchwil yw’r ymgais i ymestyn y wybodaeth sydd ar gael trwy broses systemaidd amddiffynadwy o ymholi.” (Clamp et al., 2004).

Dyma ddiffiniad buddiol o werthuso: “Gwerthuso yw asesu yn systemaidd ddyluniad, gweithredu a deilliannau ymyriad” (Magenta Book, 2020).

Tabl 2: Ymchwil a Gwerthuso

​Table 1

Pethau sy’n debyg ac yn wahanol

Mae gwerthuso ymchwil a gwasanaethau yn debyg, ond eto yn annibynnol ar ei gilydd. Maent yn rhannu camau tebyg yn eu proses a gallant ategu ei gilydd yn dda. Fel y dangosir isod yn Niagram 1, mae’r gwahaniaethau’n digwydd ar ddechrau a diwedd y broses, tra bod y pethau tebyg yn  y craidd (dulliau/dadansoddi).

Diagram 1: Pethau Tebyg a Gwahanol o ran Ymchwil a Gwerthuso

Diagram 1

Mae ymchwil yn canolbwyntio ar gynhyrchu gwybodaeth y gellir ei gyffredinoli sydd yn empeiraidd, damcaniaethol, ac wedi ei reoli gan yr ymchwilwyr (i sicrhau bod y canfyddiadau yn ddiduedd). Mae Gwerthuso Gwasanaethau fel rheol yn canolbwyntio ar wybodaeth benodol a chymhwysol, gyda’r nod o ddod i gasgliadau gwerthusol am ansawdd neu werth ac fe’i rheolir gan y sawl sy’n cyllido neu’n comisiynu’r gwerthuso (a all arwain at fwy o ogwydd mewn canfyddiadau). Mae dau brif ddefnydd i werthuso - rhoi tystiolaeth o effaith cyffredinol prosiect a’i gost-effeithiolrwydd yn ogystal â nodi’r hyn y gellir ei wella, gan ddatblygu tystiolaeth ar gyfer prosiectau  yn y dyfodol.

I gael y gorau o gydran ymchwil a gwerthuso ymyriad neu raglen, mae manteision i ddefnyddio’r ddwy agwedd. Fel gweithgareddau arunig, fe all cyfyngiadau godi, e.e., mae gwerthuso heb fod yn ymchwil yn golygu dod i farn heb gasglu data yn systemaidd. Gall ymchwil nad yw’n gwerthuso gymryd llawer o amser a chost i’w ddylunio a’i baratoi, ac yn aml ni ellir cyflwyno unrhyw ddeilliannau tan ddiwedd y broses, sy’n gwneud gwelliannau ar hyd y ffordd yn amhosib. Enghraifft o fethodoleg/dadansoddi sy’n gorgyffwrdd ac yn ategu ei gilydd yn dda yw Agwedd Pedwar-Cam Graddol Gwella Ansawdd (GA) . Trafodir hyn yn yr adrannau nesaf.

Am fwy o wybodaeth am ‘beth yw gwerthuso’ a ‘beth i’w ystyried wrth gynllunio gwerthuso’, gwyliwch y fideos byr hyn:

Beth yw Gwerthuso?

’ Beth i’w ystyried wrth gynllunio gwerthuso?

 

​

Welsh Government logo
  • Newyddion
  • Blog
  • Digwyddiadau
  • Astudieathau Achos
Tec Cymru
Tŷ Regus,
Cardiff Gate Business Park,
Caerdydd,
CF23 8RU

Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg

E-bost : teccymru@wales.nhs.uk
  • X.com
  • Youtube
  • Facebook
  • LinkedIn
  • Hygyrchedd
  • Polisi Iaith Gymraeg
  • Telerau
  • Cwcis
  • Preifatrwydd
  • Sitemap
© 2025 TEC Cymru