Adran 2: Beth yw Gwella Ansawdd?
Beth yw Gwella Ansawdd (GA)?
Agwedd systematig yw Gwella Ansawdd (GA) at wella sydd yn defnyddio dulliau a thechnegau penodol i wella ansawdd. Mae cyhoeddiad y Sefydliad Iechyd “Quality Improvement Made Simple” yn gyflwyniad buddiol a gellir ei weld yma
Hefyd, gallwch weld sut y defnyddir GA yng Nghymru yma
Rhan hanfodol o lwyddiant a chynaliadwyedd GA yw’r ffordd y caiff ei weithredu a’r agweddau a ddefnyddir. Yr elfennau allweddol er mwyn cael y deilliannau gorau yw cyfuniad o ‘newid’ (y gwelliant), y ‘dull (yr agwedd/arfau) a thalu sylw manwl i’r ‘cyd-destun’ a’r ‘amgylchedd’ lle mae’r newid yn digwydd (y bobl/y lle).
Mae llawer math neu ‘frand’ o GA i ddewis ohonynt, sy’n defnyddio ystod eang o fethodolegau ac agweddau, ond y mae llawer yn rhannu’r egwyddorion canlynol er mwyn sicrhau y gweithredir y ‘newid’ yn llwyddiannus. Yn eu mysg mae:
- Deall y broblem (a’r data sy’n bodoli).
- Deall y prosesau, systemau a’r llwybrau yn y gwasanaeth.
- Deall galw, gallu a llif y gwasanaeth.
- Deall yr agwedd/arfau gorau i greu ‘newid’ e.e., cyfranogiad y cleifion/gweithwyr proffesiynol, ymwneud clinigol, arweinyddiaeth.
- Mesur ar gyfer gwella, yn aml trwy ddefnyddio siartiau rheoli prosesau ystadegol.
- Gwerthuso effaith ‘newid’ trwy fesurau ansoddol a meintiol.
- Deall seicoleg newid a sut i arwain newid
- Deall effaith cymhlethdod a’r addasiadau sydd eu hangen i gwrdd â gwahaniaethau diwylliannol a chyd-destunol.
Fodd bynnag, bydd sut y rheolir gweithredu’r ‘newid’ yn dibynnu ar ‘gyd-destun’ y gwasanaeth, ac y mae angen rhoi ystyriaeth arbennig o ofalus i hyn, a gwirio ansawdd ar hyd y ffordd.
Chwe Dimensiwn Gwella Ansawdd
Mae’r Sefydliad Meddygaeth (IOM) yn awgrymu bod gwella ansawdd mewn gofal iechyd yn gyffredinol yn golygu ei wneud yn Ddiogel, Effeithiol, Canoli ar y Claf, Amserol, Effeithlon a Chyfiawn.
Mae Tabl 2 yn gosod allan chwe dimensiwn yr IOM ac yn esbonio pam eu bod yn cael eu hystyried yn brif flaenoriaethau i unrhyw ymyriad/rhaglen gan y GIG a’i gydran Ymchwil a Gwerthuso.
Noder: Er mwyn sicrhau yr atebir y chwe dimensiwn GA, yn ddelfrydol byddid yn mabwysiadu agwedd pedwar-cam graddol at ymchwil a gwerthuso approach (a drafodir yn Adran 3), gan ddefnyddio methodolegau cymysg (a drafodir yn Adran 4) ac ymwneud cleifion a’r cyhoedd (YCC) (a drafodir yn Adran 5).
Agweddau ac Egwyddorion Gwella Ansawdd
Agweddau ac Egwyddorion Gwella Ansawdd
Mae cyfoeth o fethodolegau technegol GA, llawer ohonynt wedi cael eu defnyddio ers degawdau a’u haddasu i’w defnyddio mewn gofal iechyd. Ar waethaf enwau gwahanol yr agweddau GA, mae’r rhan fwyaf ohonynt yn rhannu’r un egwyddorion sylfaenol, ac y mae llawer o fethodolegau GA yn defnyddio’r un arfau allweddol tebyg i’r cylch syml Cynllunio Gwneud Astudio Gweithredu (CGAG) a ddisgrifir isod. Mae rhai sefydliadau gofal iechyd yn dewis defnyddio un dull GA systemaidd, ond y mae’r rhan fwyaf o sefydliadau’r GIG yn tueddu i ddewis y dull ‘ffitio orau’ ar gyfer eu cyd-destun. Disgrifir isod rai o’r agweddau a’r arfau GA a ddefnyddir yn aml gan TEC Cymru.
Cyd-Ddylunio Seiliedig ar Brofiad
Agwedd GA yw hon at wella profiad cleifion o wasanaethau trwy bartneriaeth rhwng cleifion a gweithwyr proffesiynol i ddylunio gwasanaethau neu lwybrau.
Cesglir data trwy arolygon, cyfweliadau dwys, arsylwadau a thrafodaethau grŵp, (e.e., grwpiau ffocws) ac fe’u dadansoddir i nodi pwyntiau cyffwrdd neu themâu – agweddau o’r gwasanaeth sydd yn arwyddocaol. Mae dolen i’r pecyn cymorth a fideos cyfarwyddyd defnyddiol yma.
Model Gwella (gan gynnwys CGAG)
Agwedd GA yw hon at welliant parhaus lle rhoddir prawf ar newidiadau mewn cylchoedd bychain sy’n golygu cynllunio, gwneud, astudio, gweithredu (CGAG), cyn dychwelyd at y cynllunio ac ati. Mae dolen i’r canllaw sut i’w wneud yma
Mae pob cylch yn cychwyn gyda syniadau a damcaniaethau sydd yn esblygu’r wybodaeth a all fod yn sail i weithredu ac a fwriedir i esgor ar ddeilliannau cadarnhaol. I wneud hyn, cysylltir y cylchoedd hyn a thri chwestiwn allweddol:
- Beth ydym ni’n ceisio ei gyflawni?
- Sut byddwn ni’n gwybod fod newid yn welliant?
- Pa newidiadau allwn ni eu gwneud fydd yn arwain at welliant?
Dylai unrhyw newid arfaethedig hefyd gael ei esbonio, ei drafod a’i gyfleu i’r tîm.
Rheolaeth Ystadegol ar Brosesau
Mae Rheolaeth Ystadegol ar Brosesau yn dechneg mesur a ddefnyddir yn aml i siartio data dros amser. Gall helpu i ddelweddu amrywiad naturiol (amrywiad achos cyffredin) ac amrywiad nad yw’n ganlyniad i amrywiad naturiol (amrywiad achos arbennig). Mae’r agwedd yn defnyddio siartiau rheoli sydd yn dangos ffiniau amrywiad derbyniol mewn proses.
Cesglir data dros amser i ddangos a yw proses o fewn terfynau rheoli ansawdd y cytunwyd arnynt ai peidio er mwyn monitro perfformiad, a gellir defnyddio hyn i fesur effaith syniadau am wella.
Data a Mesur ar gyfer Gwella
Mae mesur a chasglu data yn hanfodol i unrhyw ymgais i wella perfformiad neu ansawdd ac y maent yn hanfodol i asesu ei effaith. Serch hynny, mae’n werth nodi fod mesur ar gyfer gwella yn amrywio ar draws ymchwil a gwerthuso.
- Mesur ar gyfer ymchwil – profi i weld a yw’r ymyriad yn gweithio
- Mesur ar gyfer gwerthuso (neu farnu) – helpu rhanddeiliaid allweddol i fesur perfformiad a chasglu ynghyd wersi am y broses.
Wrth fesur ar gyfer gwella yn nhermau GA, mae’r dysgu yn datblygu trwy brosesau. O ganlyniad i broses, bydd y cwestiynau neu’r hypothesis allweddol yn newid trwy gydol y prosiect (yn wahanol i ymchwil traddodiadol). O ganlyniad, ystyrir bod y data yn ‘ddigon da’ yn hytrach na ‘pherffaith’. Yn hytrach na gofyn ‘a yw’n gweithio?’, mae GA yn gofyn, ‘sut mae’n gweithio, i bwy, dan ba amgylchiadau ac i ba raddau?’ Yn y pen draw, bydd yn deall beth fydd llwyddiant.
Gall fod yn fuddiol iawn ar ddechrau unrhyw waith gwella i fapio damcaniaethau cychwynnol am sut y byddwch yn cyflawni’r gwelliant, sut y byddwch yn rhagfynegi y bydd newid yn digwydd, a pha gyfraniadau a deilliannau a ddisgwylir gennych. Mae tri math o erfyn defnyddiol i wneud hyn.
- Diagram Gyrrwr: Mae diagram gyrrwr yn erfyn syml ond effeithiol sy’n eich helpu i drosi nod gwelliant lefel-uchel yn gyfres resymegol o amcanion gwaelodol (gyrrwr) a syniadau am newid. Mae’n dal prosiect cyfan mewn un diagram ac yn helpu hefyd i roi fframwaith fesur er mwyn monitro cynnydd. Gellir gweld esiampl o ddiagram gyrrwr yma.
- Model Damcaniaeth Newid: Mae damcaniaeth newid yn ddisgrifiad ac yn ddarluniad cynhwysfawr o sut a pham y disgwylir i newid a fynnir ddigwydd mewn cyd-destun arbennig. Mae’n esbonio’r rhagdybiaethau gwaelodol am y prosiect yr ydych eisiau ei werthuso ac yn rhoi darlun o sut y bydd eich prosiect yn arwain at yr effaith sydd ei eisiau. Mae’n gwneud yn glir sut y disgwyliwch i newid ddigwydd ac yn helpu i ddisgrifio galluogwyr a mecanweithiau newid. Mae’n erfyn defnyddiol hefyd i adeiladu perthynas gyda rhanddeiliaid, gan y gallwch ddatblygu damcaniaeth newid ar y cyd trwy gyd-gynhyrchu. Gall eich helpu i gyfleu eich prosiect mewn ffordd glir a syml, gan ddangos eich meddyliau am yr hyn y gobeithiwch fydd y deilliant. Mae hyn yn ei dro yn helpu i adnabod eich anghenion gwerthuso a data. “Gall datblygu ‘damcaniaeth newid’ fod yn ffordd ddefnyddiol o leisio a darlunio’r cysylltiadau rhwng gwahanol weithgareddau gwasanaeth a sut y bydd hyn yn arwain at y deilliannau tymor hir y mae’n ceisio eu cyrraedd”(NPC Guide to Developing Theory of Change) - gweler yma
- Model Rhesymeg: Mae modelau rhesymeg yn disgrifio’r berthynas rhwng mewnbynnau, gweithgareddau, allbynnau, deilliannau, ac effeithiau prosiect. Gall eich helpu i weld beth yr ydych yn ei roi i mewn i’r prosiect (y mewnbynnau), sut mae’r prosiect yn defnyddio’r adnoddau (y gweithgareddau), pa gynhyrchion sydd (yr allbynnau), pa newid a ragfynegir fydd yn cael ei gyflawni o ganlyniad i’r broses hon (y deilliannau) a’r newidiadau terfynol a fwriadwyd ac nas bwriadwyd o ganlyniad i’r ymyriad /rhaglen (yr effeithiau). Mae canllaw defnyddiol i ddatblygu model rhesymeg yma
Er hynny, y mae gan yr agwedd GA draddodiadol hon rai cyfyngiadau, oherwydd bod angen o hyd i ofyn y cwestiwn ‘a yw’n gweithio?’ , e.e. trwy Dreial Ar Hap Dan Reolaeth. Mae’n bwysig hefyd mesur newid dros amser, gan ddefnyddio dulliau sy’n ei gwneud yn bosib gwahaniaethu rhwng gwelliannau neu ddirywiad, o’r lefel ddisgwyliedig o amrywiadau mewn perfformiad.
Mae TEC Cymru yn rhannu’r broses hon yn bedwar cam dros gyfnod amser yr ymyriad /rhaglen. Trafodir hyn yn yr adran nesaf.
I ddarganfod mwy am agweddau ac egwyddorion Gwella Ansawdd , gweler
yma.