Adran 3: Agwedd Pedwar-Cam Graddol TEC Cymru
Beth yw Agwedd Pedwar-Cam Graddol TEC Cymru?
Datblygodd TEC Cymru agwedd pedwar-cam sydd wedi ei dreialu a’i brofi fel rhan o’r fframwaith Ymchwil a Datblygu. Argymhellir yr agwedd hon yn gryf fel dull cadarn o gasglu a dadansoddi data ar draws ystod eang o ymyriadau neu raglenni.
Yn syml, mae Cam 0 yn gosod y llwyfan; Cam 1 a Cham 2 yn dal data o’r cyfnod mabwysiadu hyd at weithredu’n llawn; ac y mae Cam 3 yn rhoi prawf arno ar ei ffurf lawn ac yn pennu cynaliadwyedd tymor hir.
Cam Sero: ‘A yw’n werth ei wneud?’
Cam Sero yw cyfnod darganfod unrhyw ymyriad neu raglen sy’n cael ei werthuso yn TEC Cymru. Bwriad y cam hwn yw deall rhesymeg ac amcanion y prosiect er mwyn pennu ei werth, a’i werth i TEC Cymru fel rhaglen, a’r angen am amser a’r adnoddau i’w gwario ar ymchwil a gwerthuso.
Yn y cyfnod hwn, ceisir tystiolaeth, cynhelir adolygiadau llenyddiaeth, gwneir cais am y caniatâd moesegol priodol, a delir data gwaelodlin er mwyn deall barn y cyhoedd am yr ymyriad neu’r rhaglen arfaethedig. Mae sawl modd o gasglu hyn gan gynnwys arolygon gwaelodlin, ymgynghori cyhoeddus neu trwy ymwneud cleifion a’r cyhoedd (YCC) - (a drafodir yn Adran 5). Gellir cael mynediad at e-lyfrgell Cymru yma
Mae’n bwysig hefyd yn y cyfnod hwn ystyried “Y graddau y gellir gwerthuso gweithgaredd neu brosiect mewn dull dibynadwy a chredadwy” (OECD-DAC 2010; t.21) ac i gynnal asesiad i weld pa mor hawdd yw ei werthuso. Mae mwy o wybodaeth am sut mae mesur rhwyddineb gwerthuso yn gweithio, a thempledi asesu, i’w gweld yma Gall hyn gynnwys ymwneud strwythuredig gyda rhanddeiliaid i egluro nodau’r ymyriad a sut y gellid eu cyrraedd. Gall fod o help datblygu diagram gyrrwr, model rhesymeg neu ddamcaniaeth newid i egluro cyd-ddealltwriaeth o’r gwaith, pa fodelau gwerthuso a ddefnyddir, ac i geisio cyngor ynghylch a ellir gwerthuso am gost resymol neu beidio.
Ar gychwyn ymyriad/rhaglen, ar waethaf tystiolaeth flaenorol a data gwaelodlin cynnar a ddaliwyd, yn aml, nid oes llawer yn hysbys am y grŵp cyfranogwyr a dargedir ac a fydd eu hangen ar gyfer yr ymyriad/rhaglen arfaethedig, yn enwedig o ran faint sy’n debygol o gymryd rhan yn yr ymyriad/rhaglen, na’i ymateb na’i ddeilliant tebygol. Felly, ar yr adeg hon, ychydig chwaith sy’n debyg o fod yn hysbys am y dull neu’r agwedd orau er mwyn dal y dystiolaeth orau o’r grŵp cyfranogwyr hwn a dargedir.
O safbwynt TEC Cymru, byddai’n wastraffus treulio misoedd lawer yn dylunio dull, offeryn neu fesur difai o gasglu data, a threulio misoedd wedyn yn gwneud cais am ganiatâd moesegol IRAS a disgwyl eu hymateb, dim ond i sylweddoli yn nes ymlaen nad oedd y cyfranogwyr yn barod i gymryd rhan, neu na fyddai’r ymyriad/rhaglen yn dangos gwerth, a thrwy hynny yn mynd yn groes i’r dimensiynau GA (e.e., dimensiwn 5 'effeithiolrwydd’ a dimensiwn 1 ‘diogelwch’ trwy ddal ymlaen â gwasanaeth).
Mae TEC Cymru felly yn argymell, os bydd yr ymyriad/rhaglen wedi pasio’r holl wiriadau diogelwch ac ansawdd angenrheidiol, y byddai oedi ei ddyddiad mynd-yn-fyw/cychwyn oherwydd oedi gydag ymchwil a gwerthuso efallai yn gwneud mwy o ddrwg nac o les i’w ddarpar-gyfranogwyr; ond hefyd, y gallai mynd yn fyw heb atodi cydran gwerthuso wneud niwed (neu o leiaf esgor ar wallau) yn y sylfaen o dystiolaeth.
Yr ydym felly wedi datblygu agwedd pedwar-cam at eu strategaeth Ymchwil a Gwerthuso, sy’n caniatáu iddynt fel tîm bennu’r ‘angen’ neu’r gofynion am gamau pellach pellach wrth iddynt ddysgu mwy a bwrw ymlaen.
NODER: Mae’n bwysig nodi na fydd angen rhai o’r camau neu geisiadau am ganiatâd moesegol ar gyfer pob math o ymyriad/rhaglen. ‘Canllaw delfrydol’ yn unig yw’r agwedd hon a ddefnyddir gan TEC Cymru.
Cam 1: ‘A yw’n gweithio?’
Erbyn yr amser y bydd eich ymyriad neu raglen yn cyrraedd Cam 1, mae Cam Sero wedi arwain eich tîm i gredu bod gwerth i’r ymyriad/rhaglen arfaethedig o ran yr ymyriad/rhaglen gyffredinol a nod angen cefnogaeth gwerthuso ac ymchwil.
Yng Ngham 1 y cyfan yr ydych eisiau wybod yw ‘A yw’n gweithio?’
Mae Cam 1 yn aml yn ceisio ateb y cwestiwn hwn dim ond trwy ddal data gan ddefnyddwyr gwasanaeth (cleifion/teuluoedd/gweithwyr proffesiynol) trwy arolygon adborth byw sylfaenol (sy’n aml wedi eu hatodi at yr ymyriad), sydd â’r nod o ddal mesurau megis defnydd a gwerth yr ymyriad/rhaglen.
Yn aml yn y GIG, y cyfan sydd ei angen i ddal data o fath Cam 1 a dechrau gwerthuso yw cymeradwyo Gwerthuso’r Gwasanaeth gan adran Ymchwil a Datblygu (YaD) leol. Wrth i Gam 1 fynd rhagddo, a mwy yn cael ei ddysgu am y grwpiau sy’n cymryd rhan, efallai y bydd angen cymeradwyaeth moesegol ychwanegol (e.e., IRAS) a mwy o gynllunio dyfnach ac adnoddau er mwyn symud ymlaen i gamau pellach.
O brofiad TEC Cymru, mae’r agwedd raddol hon yn caniatáu llai o wastraff, gwell cynllunio ac yn rhoi gwell dealltwriaeth o’r grŵp cyfranogwyr, i ganiatáu teilwrio’r camau nesaf yn fwy priodol. Yn y pen draw, mae hyn yn gwella’r ymyriad neu’r rhaglen a’i ddeilliannau tebygol.
Cam 2: ‘Sut mae’n gweithio?’
Erbyn i’ch ymyriad neu raglen gyrraedd Cam 2, mae Cam 1 wedi arwain eich tîm i feddwl ei fod yn gweithio, ond nid ydych eto wedi deall sut mae’n gweithio, i bwy, dan ba amgylchiadau ac i ba raddau?
Mae Cam 2 yn aml yn ceisio ateb y cwestiwn hwn trwy barhau i ddal data o ddefnyddwyr gwasanaeth (cleifion/teuluoedd/gweithwyr proffesiynol) ond trwy dreiddio’n ddyfnach. Mae hyn yn aml trwy arolygon adborth dyfnach gyda’r nod o ddal mesurau ynghylch manteision a heriau yr ymyriad/rhaglen a dechrau ymchwilio i’w gynaliadwyedd yn y tymor hwy.
Rhannodd TEC Cymru eu gwaith Cam 2 yn incrementau 3-6 mis gan gyfeirio atynt fel Cam 2a, b, c ac yn y blaen. Yn ddelfrydol, byddai TEC Cymru yn argymell i Gam 2 fynd ymlaen tan ddiwedd yr ymyriad neu’r rhaglen er mwyn gwneud yn siŵr nad oes bylchau mewn munudau a fframiau amser data.
Hefyd, bydd Cam 2 yn ceisio dal data ansoddol i roi dealltwriaeth gyfoethocach o’i grŵp cyfranogwyr a chyd-destun i sail yr ymyriad/rhaglen, e.e., trwy gyfweliadau a grwpiau ffocws.
Cam 3: ‘A wnaeth weithio?’
Erbyn i’ch ymyriad neu raglen gyrraedd Cam 3, dylai fod gennych ddealltwriaeth dda o’ch grŵp cyfranogwyr a chyd-destun sail yr ymyriad/rhaglen. Mae Cam 2 wedi eich arwain i ddeall sut mae’n gweithio, i bwy, dan ba amgylchiadau ac i ba raddau. Ond mae’n bwysig deall mai barn o hyd yw’r ‘sut’ hwn, ac na fydd yn dweud wrthych a fydd yn gweithio.
Fodd bynnag, mae Cam 3 yn gofyn ‘a wnaeth weithio?’
Mae gwybod a yw rhywbeth yn swyddogol yn gweithio angen i brofi, a gall prawf ddod yn unig o fesurau profi ymchwil dwfn neu arbrofol megis effeithlonedd ac effeithlonrwydd e.e., astudiaethau effeithlonrwydd cost neu glinigol.
Mae Cam 3 yn aml yn ceisio ateb y cwestiwn hwn trwy weithio’n agos gyda defnyddwyr gwasanaeth a thimau (perthynas a ddatblygwyd yng Nghamau 1 & 2) i ddeall meysydd angen mwy penodol a’r gofyniad am ymchwil dwfn. Dilynir hyn gan estyn allan a chydweithio gydag eraill (e.e., academia, arbenigwyr rhyngwladol) i wneud cais am gymeradwyaeth moesegol uwch a chynnal mwy o ymchwil dyfnach ac arbrofol - megis Treialon Dan Reolaeth ar Hap (TDRH), astudiaethau cost- effeithlonrwydd ac agweddau ansoddol dyfnach a arweinir gan ymchwil sy’n ymestyn i feysydd arbenigol.
Mae’n bwysig iawn nodi, erbyn i chi gyrraedd Cam 3, y bydd angen cefnogaeth ac adnoddau ychwanegol yn eich ymyriad neu raglen.
Er enghraifft:
- Yng Nghamau 1 a 2, mae cwestiynau a gofynion allweddol fel arfer yn seiliedig ar gylchoedd gorchwyl yr ymyriad neu’r rhaglen a’r hyn sy’n rhaid ei gael (e.e., am beth y gofynnodd y rhanddeiliaid); fodd bynnag, mae Cam 3 yn rhedeg yn fwy annibynnol ac yn meddu ar bethau posib y ‘dylid eu cael’ - gan ei fod yn awr yn cynhyrchu gwybodaeth newydd sy’n unigryw ac ar wahân i’r cylchoedd gorchwyl gwreiddiol (e.e., yr anhysbys).
- Yn wahanol i’r strwythur mae Camau 1 a 2 yn ganiatáu, mae ymchwil Cam 3 yn mynnu rhyddid a chreadigrwydd tîm ymchwil i edrych i mewn i themâu newydd sy’n deillio o Gamau 1 a 2, a rhaid felly iddynt allu camu y tu allan i gylch gorchwyl gwreiddiol yr ymyriad neu’r rhaglen. Mae’n debyg y bydd meysydd diddordeb newydd yn ymddangos sy’n annhebygol o fod yng nghylch gorchwyl gwreiddiol yr ymyriad neu’r rhaglen. Os ceisiwch gyfyngu ar ymddangosiad data naturiol a’i gynnydd trwy atal symudiad newid cylch gorchwyl ymyriad neu raglen, fe fyddwch o bosib yn cyfyngu ar wir ganfyddiadau data sef hanfod ymchwil - a’r hanfod hwn sy’n rhoi ymchwil ar frig gwerthuso o ran gwallau mewn barn, diffyg tuedd, dilysrwydd a natur ddibynadwy.
- Os na all eich ymyriad neu raglen gynnal gofynion Cam 3, ni ddylid ei labelu fel Ymchwil a Gwerthuso, ond yn hytrach fel cydran Gwerthuso Gwasanaeth o ymyriad neu raglen yn unig, oherwydd bod y dystiolaeth yng Nghamau 1 a 2 yn unig yn rhoi barn am ‘sut i wella’ ac nid fel ‘gwaith a brofwyd sy’n gweithio’.
- Cofiwch: i wella, gwerthuswch y gwasanaeth, ac i brofi, cynhaliwch ymchwil; a gwnewch hyn yn ffordd TEC Cymru– gwnewch y ddau!