Adran 4: Defnyddio Methodolegau Cymysg
Defnyddio Methodolegau Cymysg
I ehangu’r sylfaen tystiolaeth cyhyd ag sydd modd ar unrhyw fath o gydran ymchwil and gwerthuso graddol ymyriad neu raglen, mae TEC Cymru yn argymell mabwysiadu agwedd dulliau cymysg.
Mae rhanddeiliaid a chyllidwyr ymchwil yn ymdrechu i sicrhau ansawdd uchel a diogelwch i’r cyhoedd (ac yn y GIG, yn fwy penodol i’w cleifion, teuluoedd a gweithwyr proffesiynol). Gall agwedd dulliau cymysg wneud hyn - gall edrych i mewn i bob math o duedd ac arfer ar draws grwpiau cyfranogwyr a chyd-destun, a rhoi dadansoddiad mwy crwn i randdeiliaid, a dealltwriaeth o’r problemau a’r atebion.
Beth yw Ymchwil a Datblygu Dulliau Cymysg?
Mae dulliau cymysg yn agwedd a ddefnyddir i gasglu a dadansoddi data meintiol ac ansoddol yn yr un astudiaeth (e.e., yr ymyriad neu’r rhaglen).
Mae agwedd dulliau cymysg yn briodol er mwyn ateb cwestiynau na allai dull meintiol nac ansoddol eu hateb ar ei ben ei hun. Mae agwedd dulliau cymysg yn gofyn am gymysgedd dwys o ddulliau mewn casglu data, dadansoddi a dehongli’r dystiolaeth.
Y gair allweddol yma yw cymysg.
Y cam pwysig yn yr agwedd gymysg approach yw ‘doleniad’ neu ‘integreiddio’ data ym mhob cam priodol o’r broses Ymchwil a Gwerthuso. Mae dolennu/integreiddio data yn galluogi’r tîm ymchwil i geisio ‘barn a dealltwriaeth fwy cynhwysol (neu banoramig)’ o’r cyd-destun a golygweddau trwy wahanol fathau o lens.
Er enghraifft, mewn astudiaeth dulliau cymysg, gall y data meintiol roi gwybodaeth am benderfyniadau, dewisiadau, newid a deilliannau, lle mae’r data ansoddol yn darparu’r profiadau wedi eu cyd-destunoli sydd wedi eu hatodi i’r mesurau hyn, gan roi mwy o wybodaeth ddyfnach ar y ffactorau dylanwadol, sbardunau a gwir ystyr sy’n gysylltiedig â phob un o’r mesurau. Gall y math hwn o astudiaeth dulliau cymysg felly ddarparu dealltwriaeth gyfan ar draws y cyd-destun a’r golygweddau i ateb cwestiwn ymchwil penodol.
Mewn geiriau eraill, gall defnyddio un dull yn unig (e.e., arolwg) ateb cwestiwn ymchwil yn rhannol yn unig. Ond mae defnyddio dulliau cymysg yn fwy tebygol o roi dealltwriaeth lawn ac felly yn fwy tebygol o ateb y cwestiwn ymchwil. Os methwch ag ateb y cwestiwn ymchwil yr oeddech am ei ofyn, bydd siawns uchel iawn o esgor ar gryn fylchau a chamddehongli yn y set ddata, ond hefyd bydd angen mwy o ymchwil yn y maes hwnnw – gan greu yn y pen draw wastraff amser ac adnoddau yn ogystal â bod angen, o bosib, fwy o gyllid allanol.
Hefyd, mae agwedd dulliau cymysg yn cryfhau’r dulliau meintiol ac ansoddol, gan ganiatau i’r tîm ymchwil edrych i mewn a chymharu amrywiol olygweddau, datgelu perthynas sy’n bodoli rhwng y cwestiynau ymchwil allweddol neu amlweddog.