Adran 5: Ymwneud Cleifion a’r Cyhoedd (YCC)
Beth yw Ymwneud Cleifion a’r Cyhoedd?
Mae ymwneud cleifion a’r cyhoedd (YCC yw’r talfyriad) yn golygu mynd ati i weithio mewn partneriaeth â chleifion ac aelodau’r cyhoedd i gynllunio, dylunio, rheoli a chynnal ymchwil a gwerthuso. Mae hyn yn golygu fod angen i’r ymchwil ar gyfer ymyriad neu raglen benodol a fwriadwyd i wella neu brofi rhywbeth i glaf neu aelod o’r cyhoedd fod ‘gyda’ neu ‘ganddynt’ hwy yn hytrach nac ‘iddynt’ neu ‘drostynt’.
Mae rhan Ymwneud YCC yn wahanol i gyfranogi (e.e., cymryd rhan mewn ymchwil) ac ymwneud (e.e.,lledaenu ymchwil).
Pam fod Ymwneud Cleifion a’r Cyhoedd yn Bwysig?
Mae dwyn i mewn gleifion a’r cyhoedd i strategaethau ymchwil and gwerthuso yn sicrhau bod dylunio a rheoli’r ymchwil yn berthnasol, a bod ei ddeilliannau a’i allbynnau yn addas i anghenion y gynulleidfa arfaethedig (fel arfer, cleifion neu aelodau’r cyhoedd).
Dylai YCC fod yn ganolog i unrhyw ymyriad neu raglen Ymchwil a Gwerthuso a dylai felly fod yng nghanol pob cam o’i strategaeth. Nid dim ond oherwydd mai dyna’r peth iawn i’w wneud – mae cyfraniadau gan leygwr yn rhoi mewnwelediad gwirioneddol i’r hyn mae cleifion a’r cyhoedd ‘eisiau’ ac ‘angen’, gan yn y pen draw arbed amser ac adnoddau i gael pethau’n iawn i’r defnyddiwr.
Mae’r rhan fwyaf o ffrydiau cyllido ymchwil yn mynnu bod ymgeiswyr yn dangos yn glir sut y maent yn cynllunio i ddwyn cleifion a’r cyhoedd i mewn i’w proses ymchwil a bydd angen cyfiawnhad clir dros beidio â chynnwys. Mae YCC hefyd yn awr yn orfodol i lawer o’r hyn a gyflwynir i gyfnodolion a adolygir gan gyfoedion.
Mewn geiriau eraill, trwy esgeuluso YCC efallai y byddwch yn peryglu cyfleoedd cyllido a lledaenu deilliannau.
Beth yw’r Broses Ymwneud Cleifion a’r Cyhoedd?
Gall cleifion ac aelodau’r cyhoedd fod yn rhan o bob cam o’r broses ymchwil, a dylent wneud hynny. Gall hyn gynnwys ystod eang o agweddau, o ddwyn y cyhoedd a chleifion i mewn i’r tîm canolog neu fynychu grwpiau sy’n bodoli eisoes i drafod yr ymyriad neu’r rhaglen, gan godi materion a chwestiynau. Dyma rai esiamplau:
- Adnabod a blaenoriaethu (e.e. cynnal cyfarfod cychwynnol gyda chleifion ac aelodau’r cyhoedd i drafod yr agweddau gorau)
- Dylunio a Rheoli (e.e. mynychu grwpiau YCC sy’n bodoli eisoes i drafod dylunio casglu data gyda chyfarfod dilynol am newidiadau neu ddylunio’r camau nesaf)
- Cleifion a’r Cyhoedd sy’n Ymchwilwyr (e.e. casglu a dadansoddi data)
- Lledaenu (e.e. cyd-awduro cyhoeddiadau a chyflwyniadau)
- Gweithredu (e.e. ymwneud a chyflwyno ymyriad neu raglen)
- Monitro ac Ymwybyddiaeth (e.e. casglu barn am effeithiau YCC a’i wella)
Mae TEC Cymru yn argymell defnyddio nifer o wahanol agweddau i ddwyn cleifion a’r cyhoedd i mewn i ymchwil a gwerthuso, gan gynnwys cael aelodau canolog YCC megis cleifion sydd wedi byw trwy brofiadau, yn ogystal ag agweddau ad hoc megis mynd i grwpiau YCC sy’n bodoli eisoes ac estyn allan at y sawl y cysylltwyd â hwy eisoes i gael adborth yn ôl yr angen.